cymdeithas.org a ddywedodd:Heddiw carcharwyd Ffred Ffransis, aelod amlwg o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg am 5 diwrnod gan Lys Ynadon Llanelli. Wrth gael ei garcharu dywedodd Ffred Ffransis ei fod yn mynd i'r carchar am nad oedd unrhyw ddatblygiad o bwys wedi digwydd yn sefyllfa'r iaith ers pan gafodd ef ei arestio wyth mlynedd yn ôl am drosedd oedd dan sylw yn y llys. Heriodd yr ynadon i alw ar y Cynulliad i fynnu fod yr hawl i ddeddfu dros y Gymraeg yn cael ei drosglwyddo'n llawn o Lundain i Gaerdydd.
Carcharu Ffred Ffransis - cymdeithas.org - 01/06/2009
Ffred Ffransis yn cael ei anfon i'r carchar - Golwg360 - 01/06/2009