Gwyl cefn gwlad sy'n cael ei gynnal yn flynyddol yn Sir Gâr, ond sydd ddim yn defnyddio gair o Gymraeg ar unrhyw ddeunydd hysbysebu (posteri mawr ochr ffordd, posteri mewn siopau, taflenni yn cael eu danfon mas gyda cylchgrawn Cyngor SIr ayb) na chwaeth yn y digwyddiad ei hunan. Mae'r ffaith mai Cymry Cymraeg sy'n trefnu'r wyl yn gwneud pethau'n waeth! Beth sy'n gwneud pethau hyd yn oed yn waeth eto, ydy bod nifer o bobl wedi bod yn llythyru a ffonio'r trefnwyr dros y blynyddoedd diwethaf, ac maent yn addo defnyddio'r Gymraeg y tro nesaf, ond mae'r 'tro nesaf' yn cyrraedd, a dim gair o Gymraeg eto!
Dyma eu gwefan. Chwarae teg, mae un gair o Gymraeg - Croeso!
Danfonwch eich cwynion yma - http://www.welshgamefair.com/index.php?page=contact-us