gan Dafydd Iwanynyglaw » Gwe 12 Meh 2009 8:09 pm
Heb weld yr erthygl wreiddiol, ond o ddadansoddi'r uchod, mae tri peth, o leia, yn wir:
1. Mi bostiodd Cai Larsen yr hyn a bostiodd - yn cynnwys yr ail ran o'r dyfyniad o'i flog, sy'n disgrifio LLG fel safbwynt "wrth-Gymreig" mewn cyd-destyn sy'n son am UKIP a'r BNP.
2. Mae'r Cyng. Roberts wedi cwyno am yr hyn y mae o wedi ddeall o beth ddywedodd Cai Larsen.
3. Mae Golwg wedi gohebu ar y mater.
Fel dywedodd rhywun uchod, petai Golwg wedi rhoi ? yn y pennod, neu roi dyfyniadau o gwmpas eu crynodeb o safbwynt Mr Roberts, fyddai hyn ddim yn achos mawr (ond, wrth gwrs, dydi "TV Everywhere" ddim yn gallu iwshio compiwtars yn dda iawn, yn ol y son?).
Bosib hefyd fod Mr Larsen braidd yn naif yn ei bregethu - dylai unrhyw wleidydd efo unrhyw synnwyr wbod sut y gallai rhoi sylwadau megis "pleidlais wrth Gymreig ydi rhan arwyddocaol o bleidlais Llais Gwynedd" bron yn syth ar ol myfyrdod ar y ffin hyblyg rhwng LLG ac UKIP a'r BNP arwain at rywrai - yn gywir neu beidio - ddehongli ynddynt ymgais i bardduo drwy gysylltiad. Bosib dylai PC roi meddalwedd ar ei flog yn dweud "Rwan, ti'n siwr dy fo ti ishio pwyso "Anfon"?"
Mae o fel y tro wnaeth Llafur redeg poster o Michael Howard wedi'w wneud i fyny fel Fagin o Oliver Twist - ac wedyn yn synnu fod pobol yn darllen elfen o wrth-Semitiaeth yn y llun. Mwy na thebyg, doedd yna ddim y fath fwriad, ond yn enw Emrys ab Iwan a Phlant Duw, dylai hanner munud o feddwl synhwyrus ac ychydig awyr iach ddangos fod yna bosibilrwydd o hwn fynd yn rong ianw.
Ie, ie. Na fe.