Golwg360/Golwg yn cyhoeddi Sylwadau Enllibus?

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 12 Meh 2009 10:46 am

Mae brawddeg cychwynnol y stori sydd yno nawr yn waeth:

"Mae Plaid Cymru wedi taro’n ôl yn erbyn cyhuddiad gan Lais Gwynedd bod un o’i haelodau wedi cymharu’r blaid â’r BNP"

Cymharu Llais Gwynedd â'r BNP! WTF?

A ma nhw dal yn cynnwys y dyfyniad allan o'i gyd-destun yn llwyr. :drwg:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan sian » Gwe 12 Meh 2009 10:57 am

Ac mae'r ail frawddeg yn colli'r pwynt yn llwyr:

"Ac mae’r aelod hwnnw wedi cyhuddo un o gynghorwyr Llais Gwynedd o “sylwadau enllibus” – gan anelu’r un cyhuddiad at cylchgrawn Golwg am eu cyhoeddi nhw."

Dim y ffaith fod Golwg wedi cyhoeddi sylwadau Gwilym Euros sydd mor annheg ond bod Golwg ei hunan wedi gwneud datganiad hollol gamarweiniol:
""Mae aelod o Llais Gwynedd wedi cwyno’n swyddogol wrth Blaid Cymru ar ôl i un o’i haelodau gyhuddo cefnogwyr Llais Gwynedd o gefnogi’r BNP."
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Golwg360/Golwg yn cyhoeddi Sylwadau Enllibus?

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 12 Meh 2009 11:17 am

Wedi hollti hwn o'r brif edefyn sy'n trafod Golwg360 . Sian, os wyt ti am newid y pennawd, gelli wneud hyn trwy olygu y neges cychwynnol.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Golwg360/Golwg yn cyhoeddi Sylwadau Enllibus?

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Gwe 12 Meh 2009 8:09 pm

Heb weld yr erthygl wreiddiol, ond o ddadansoddi'r uchod, mae tri peth, o leia, yn wir:

1. Mi bostiodd Cai Larsen yr hyn a bostiodd - yn cynnwys yr ail ran o'r dyfyniad o'i flog, sy'n disgrifio LLG fel safbwynt "wrth-Gymreig" mewn cyd-destyn sy'n son am UKIP a'r BNP.
2. Mae'r Cyng. Roberts wedi cwyno am yr hyn y mae o wedi ddeall o beth ddywedodd Cai Larsen.
3. Mae Golwg wedi gohebu ar y mater.

Fel dywedodd rhywun uchod, petai Golwg wedi rhoi ? yn y pennod, neu roi dyfyniadau o gwmpas eu crynodeb o safbwynt Mr Roberts, fyddai hyn ddim yn achos mawr (ond, wrth gwrs, dydi "TV Everywhere" ddim yn gallu iwshio compiwtars yn dda iawn, yn ol y son?).

Bosib hefyd fod Mr Larsen braidd yn naif yn ei bregethu - dylai unrhyw wleidydd efo unrhyw synnwyr wbod sut y gallai rhoi sylwadau megis "pleidlais wrth Gymreig ydi rhan arwyddocaol o bleidlais Llais Gwynedd" bron yn syth ar ol myfyrdod ar y ffin hyblyg rhwng LLG ac UKIP a'r BNP arwain at rywrai - yn gywir neu beidio - ddehongli ynddynt ymgais i bardduo drwy gysylltiad. Bosib dylai PC roi meddalwedd ar ei flog yn dweud "Rwan, ti'n siwr dy fo ti ishio pwyso "Anfon"?"

Mae o fel y tro wnaeth Llafur redeg poster o Michael Howard wedi'w wneud i fyny fel Fagin o Oliver Twist - ac wedyn yn synnu fod pobol yn darllen elfen o wrth-Semitiaeth yn y llun. Mwy na thebyg, doedd yna ddim y fath fwriad, ond yn enw Emrys ab Iwan a Phlant Duw, dylai hanner munud o feddwl synhwyrus ac ychydig awyr iach ddangos fod yna bosibilrwydd o hwn fynd yn rong ianw.
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Nôl

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 23 gwestai