Golwg360/Golwg yn cyhoeddi Sylwadau Enllibus?

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Golwg360/Golwg yn cyhoeddi Sylwadau Enllibus?

Postiogan sian » Iau 11 Meh 2009 1:54 pm

OK - mae hyn yn hollol warthus - pennawd yn y Cylchgrawn papur ac ar Golwg360 yn dweud "Cymharu cefnogwyr Llais Gwynedd 'â’r BNP'" mewn stori am ddadl rhwng Gwilym Euros Roberts a Cai Larsen.

Paragraff cyntaf: "Mae aelod o Llais Gwynedd wedi cwyno’n swyddogol wrth Blaid Cymru ar ôl i un o’i haelodau gyhuddo cefnogwyr Llais Gwynedd o gefnogi’r BNP."

Doedd Cai Larsen DDIM yn cymharu cefnogwyr Llais Gwynedd â'r BNP. Gwilym Euros oedd wedi camddeall. Ac fe gamodd Alwyn ap Huw oedd yn rhan o'r ddadl wreiddiol i mewn i gadarnhau hynny.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 11 Meh 2009 2:18 pm

sian a ddywedodd:OK - mae hyn yn hollol warthus - pennawd yn y Cylchgrawn papur ac ar Golwg360 yn dweud "Cymharu cefnogwyr Llais Gwynedd 'â’r BNP'" mewn stori am ddadl rhwng Gwilym Euros Roberts a Cai Larsen. Doedd Cai Larsen DDIM yn cymharu cefnogwyr Llais Gwynedd â'r BNP. Gwilym Euros oedd wedi camddeall. Gwael!


Cytuno, dwi wedi darllen beth ddywedodd Cai Larsen, a dyw e ddim yn cyhuddo cefnogwyr Llais Gwynedd o gefnogi’r BNP. Newyddiaduriaeth pathetig unwaith eto.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan dawncyfarwydd » Iau 11 Meh 2009 4:23 pm

Wedi gyrru'r ebost hwn i Golwg. Dwi'n disgwyl cael ateb yn dweud mai stori beta oedd hi a bod y ffaith ei bod yn gelwydd noeth yn arwydd o broblemau cychwynnol, a bod y bai ddyn busnes doji sydd wedi gadael y wlad...

Annwyl gyfaill

Mae'r erthygl sydd gennych yn y cylchgrawn heddiw am sylwadau honedig Cai Larsen yn gamarweiniol a chelwyddog.

Camddeallodd Gwilym Euros frawddeg ar flog Cai Larsen, gan gymryd brawddeg oedd yn dweud NAD oedd CL yn credu bod aelodau Llais Gwynedd yn cefnogi UKIP i olygu'r gwrthwyneb llwyr! Mae ystyr y frawddeg yn gwbl amlwg yn y cyd-destun.

Mae'n fy nhristau'n arw eich bod yn cymryd rhywun fel Gwilym Euros ar ei air heb wneud yn siŵr fod ei honiadau'n gywir. Pe baech wedi darllen y sylwadau'n gywir ac yn eu cyd-destun byddai'n amlwg ichi fod Gwilym Euros yn bod yn Gwilym Euros ac yn chwythu gasget ar sail ei gamddehongiad ei hun.

Dylech ymddiheuro'n llaes i Cai Larsen. Ond nid dyma'r pryder mwyaf sydd gen i. Rydych yn fodlon cael eich defnyddio gan Gwilym Euros i hybu ei gelwydd dwl ei hun a hynny heb wirio ffeithiau. Mae'n anodd i mi ddweud pa mor flin mae hyn yn fy ngwneud.

Yn bersonol rwy'n credu y dylai Cai Larsen fynd â Golwg a Gwilym Euros i gyfraith - mae'n debyg fod ganddo groen tewach na hynny ond y peth iawn fyddai ichi gyhoeddi ymddiheuriad ac esboniad llawn yr wythnos nesaf. Ac er mor hawdd y daw penawdau ganddo, dylech anwybyddu'r ffŵl ag yw Gwilym Euros os nad ydych yn barod i wirio ei honiadau.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan GT » Iau 11 Meh 2009 7:59 pm

Dim ond gair bach i ddiolch am y sylwadau uchod ac i gadarnhau fy mod yn bwriadu edrych ar y posibilrwydd o gymryd camau cyfreithiol yn erbyn Golwg Cyf.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Hen Rech Flin » Iau 11 Meh 2009 8:12 pm

Yr wyf innau wedi danfon llythyr i Golwg hefyd.

Dechreuodd y drafodaeth yma trwy imi nodi pryder bod rhai o'm perthnasau sydd yn genedlaetholwyr wedi pleidleisio i UKIP eleni, gan nad oedd aelod o Lais Gwynedd yn sefyll. Mi awgrymais y byddai'r Blaid o bosib wedi ennill eu pleidlais yn ôl pe bai'r Blaid wedi nodi pa mor batholegol o wrth Gymraeg yw UKIP.

Ymateb Cai oedd fy mod i'n anghywir, bod dim prawf o'r nifer a bleidleisiodd bod cefnogwyr Llais Gwynedd wedi troi yn ei filoedd i UKIP na'r BNP.

Hynny yw os oedd unrhyw un wedi gwneud cam a Llais trwy ei gysylltu â phlaid asgell dde, myfi sydd ar fai. Achub cam Llais trwy ddweud bod fy ofnau yn ddi-sail oedd Cai.

Rwy'n deall sut bod modd camddehongli sylwadau Cai trwy eu cymryd allan o gyd-destun ond wedi bod yn rhan o'r drafodaeth rwy'n hollol sicr nad oedd Cai yn cysylltu Llais a'r BNP i'r gwrthwyneb dweud NAD oedd sail gwneud y fath gysylltiad ydoedd.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan osian » Iau 11 Meh 2009 11:26 pm

Ma cyhoeddi pennawd "Aelod o Blaid Cymru yn cymharu Llais Gwynedd i BNP" (neu rywbath i'r perwyl yna), heb stori sydd yn cefnogi'r honiad yna yn llwyr yn gywilyddus. Sa'm angan mynd yn agos at blogmenai i weld mai bwlshit llwyr ydi hi.
"I'm hugely confused Ted!"
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan dawncyfarwydd » Iau 11 Meh 2009 11:59 pm

Mae'r stori'n dal ar Golwg360. Pa mor analluog fedar rhywun fod?!
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 12 Meh 2009 8:33 am

Ac mai dal yno 'fyd! :rolio:

Sôn am gymysgedd o newyddiaduraeth bathetig gan Golwg a gwleidyddiaeth gwter gan Lais Gwynedd (meind iw, sypreis sypreis de). Be all rhywun ddweud? :ing:
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan dafydd » Gwe 12 Meh 2009 10:17 am

Mae Golwg wedi anghofio un o driciau sylfaenol newyddiaduraeth tabloid - jyst rhoi marc cwestiwn ar ôl unrhyw bennawd dadleuol! "Cymharu cefnogwyr Llais Gwynedd 'â’r BNP'?" a gadael y darllenwr i weithio allan yr ateb - sef 'Na' yn yr achos yma.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Re: Golwg360 - Lansio ar Mai 15fed

Postiogan dawncyfarwydd » Gwe 12 Meh 2009 10:40 am

Mae'r stori wedi newid yno erbyn hyn - 'Plaid yn taro'n ôl yn erbyn cyhuddiadau Llais Gwynedd'. Digon i ddod â'r erthygl o dir enllib mae'n debyg, ond dim digon i wneud yn siŵr fod pawb yn gwybod mai cyhuddiad celwyddog ydi hwn. Does dim ymddiheuriad chwaith, nac esboniad fod yr erthygl wedi'i newid ar ôl camarwain pobl yn wreiddiol.

Wedi cael yr 'ymateb' hwn gan Golwg...

Annwyl Dawn Cyfarwydd,



Diolch yn fawr am eich llythyr yn ymateb i erthygl yn rhifyn diweddaraf Golwg.



A ydych yn awyddus i’r llythyr gael ei gyhoeddi yn y cylchgrawn yr wythnos nesaf?



Yn gywir,



Siân Sutton
:rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Nesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai