cymdeithas.org a ddywedodd:Wrth rhoi dau glic, eich enw a'ch cyfeiriad, gallwch helpu sicrhau fod y pwerau llawn dros y Gymraeg yn cael eu datganoli i Gymru. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ystyried y diffyg hyder sydd gan bobl yn yr Aelodau Seneddol yn Llundain ar hyn o bryd.
Rydym yn galw ar Peter Hain, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, i beidio â gadael i'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn Llundain i lusgo traed ar y Gymraeg. Rhaid gweithredu'n fuan cyn daw etholiad cyffredinol neu bydd y broses o drosglwyddo'r pwerau yn cael ei ddymchwel yn llwyr.
Pwyswch yma i ddanfon ebost at Peter Hain -
http://cymdeithas.org/lobi.phpMae'r Pwyllgor Deddfwriaethol yn y Cynulliad, ar ôl clywed tystiolaeth gan bobl Cymru, wedi bod yn flaengar i alw am drosglwyddo'r holl bwerau dros y Gymraeg o San Steffan i Gymru. Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig yn Llundain hefyd wedi clywed tystiolaeth ddi-amheuol o blaid datganoli'r pwerau dros y Gymraeg i Gymru ac mae dyheadau'r Cynulliad wedi eu gwneud yn eglur.
Gofynnwn i Peter Hain wneud yn siwr fod adroddiad y Pwyllgor Dethol yn cael ei gyhoeddi cyn toriad yr haf, er mwyn symud ymlaen â'r broses o ddatganoli'r grymoedd dros y Gymraeg cyn gynted a phosibl.
Danfonwch lythyr yn awr o'r wefan hon - dau glic yn unig! -
http://cymdeithas.org/lobi.phpDiolch am eich cefnogaeth.