Mynnwch fod Peter Hain yn gweithredu dros y Gymraeg

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Mynnwch fod Peter Hain yn gweithredu dros y Gymraeg

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 15 Meh 2009 11:32 pm

cymdeithas.org a ddywedodd:Wrth rhoi dau glic, eich enw a'ch cyfeiriad, gallwch helpu sicrhau fod y pwerau llawn dros y Gymraeg yn cael eu datganoli i Gymru. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ystyried y diffyg hyder sydd gan bobl yn yr Aelodau Seneddol yn Llundain ar hyn o bryd.

Rydym yn galw ar Peter Hain, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, i beidio â gadael i'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn Llundain i lusgo traed ar y Gymraeg. Rhaid gweithredu'n fuan cyn daw etholiad cyffredinol neu bydd y broses o drosglwyddo'r pwerau yn cael ei ddymchwel yn llwyr.

Pwyswch yma i ddanfon ebost at Peter Hain - http://cymdeithas.org/lobi.php

Mae'r Pwyllgor Deddfwriaethol yn y Cynulliad, ar ôl clywed tystiolaeth gan bobl Cymru, wedi bod yn flaengar i alw am drosglwyddo'r holl bwerau dros y Gymraeg o San Steffan i Gymru. Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig yn Llundain hefyd wedi clywed tystiolaeth ddi-amheuol o blaid datganoli'r pwerau dros y Gymraeg i Gymru ac mae dyheadau'r Cynulliad wedi eu gwneud yn eglur.

Gofynnwn i Peter Hain wneud yn siwr fod adroddiad y Pwyllgor Dethol yn cael ei gyhoeddi cyn toriad yr haf, er mwyn symud ymlaen â'r broses o ddatganoli'r grymoedd dros y Gymraeg cyn gynted a phosibl.

Danfonwch lythyr yn awr o'r wefan hon - dau glic yn unig! - http://cymdeithas.org/lobi.php

Diolch am eich cefnogaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Mynnwch fod Peter Hain yn gweithredu dros y Gymraeg

Postiogan sian » Maw 16 Meh 2009 8:19 am

Helo Hedd
Wedi treio neud ond dw i'n cael neges: No file exists at the address “/lobi.php”.
Fi sy gwneud rhywbeth o'i le?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Mynnwch fod Peter Hain yn gweithredu dros y Gymraeg

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 16 Meh 2009 9:31 am

Sori am hynny, mae i weld yn gweithio nawr. Mae'r ymateb wedi bod yn syfrdanol. Danfonais allan neges ar facebook ac ebost at aelodau'r Gymdeithas am rhyw hanner nos neithiwr, ac mae tua 100 wedi llenwi'r ffurflen yn barod.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Mynnwch fod Peter Hain yn gweithredu dros y Gymraeg

Postiogan sian » Maw 16 Meh 2009 9:51 am

Tshampion!

Neges i bawb - gwnewch nawr - peidiwch â'i roi ar eich rhestr o bethe i'w wneud pan gewch chi funud! A dydi hi ddim yn cymryd dwy funud i aralleirio'r neges i gael mwy o effaith.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor


Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai