Jest yn symptomatig o benne bach yr ardal (wel, mae'n nhw ym mhob cwr o Gymru erbyn hyn yn d'yn nhw). Beth yw'r bolycs 'na am bolisi iaith??
Rhyfeddol bydde dysgu bod polisi iaith arbennig gan Venue Cymru sy'n mynnu ar sylwebaeth hollol dwyieithog (50/50) - gret os taw e. Er, a ydy pob cyngerdd Saesneg yn gorfod derbyn 50% sylwadau yn y Gymraeg?
Y gwir amdani yw bod Ysgol Glanaethwy yn enwog am eu bod yn canu trwy'r iaith Gymraeg (ac eraill). Gwnaeth y wasg llwyth am y ffaith bod y cor wedi gwneud ymdrech arbennig i ganu mewn ail iaith (Saesneg) yn ystod y gystadleuaeth, LCS. Beth oedd rhai o'r gynulleidfa'n disgwyl? Land of Hope and Glory? Dim ond hyn a hyn o ddiwylliant mae'r Saeson yn gallu derbyn - roedd yn rhaid iddynt gael gwared un eu hunain. Barbariaid dinistriol oedd y Sacsoniaid, stim wedi newid.