(gweler gopi o ebost isod)
Dwn im amdana chi, ond i mi, mae'r busnas isod yn fater o bwys. Sylwer ar y cymal "mae rhaid i bob deunydd fod yn ddwyieithog" !!!
Bolycs Bwrdd yr Iaith sy tu ol i hyn, ac engraifft arall o ddwyieithrwydd yn gweithio yn erbyn y diwylliant a chymunedau Cymraeg.
Trwy gyfrwng y Gymraeg ydan ni'n gweithio, ac i gynulleidfaoedd Cymraeg ydan ni'n ei ddarparu. Pam yn neno'r tad y dylsan ni hyrwyddo'n hunain trwy'r Saesneg (heb son am reol Gymraeg y steddfod)?
Mae o'r un broblem ag y mae gwyliau a gweithgareddau bychain ledled Gwynedd yn ei wynebu wrth geisio am grantiau gan Gyngor Gwynedd - 'chewch chi ddim pres oni fyddwch yn cynhyrchu pob deunydd yn ddwyieithog'. A'r gwyliau a gweithgareddau hynny wedi darparu adloniant Cymraeg i gymunedau Cymraeg trwy gyfrwng y Gymraeg ers degawd a mwy.
Imperialaeth ieithyddol ydi hyn, trwy gyfrwng y lacis a cwislings sy'n galw'u hunain yn Gymry ac yn gweithio i asiantaethau'r wladwriaeth Seisnig.
Dwi'n cynnig ein bod yn trefnu protest symbolaidd ar stondin rhain yn ystod yr wyl - dydd Llun, efallai, nid ar benwythnos, er mwyn dal y cyfryngau a thynnu sylw at y Seisnigo drwy'r drws cefn yma.
Ydach chi efo fi ar hyn?
Bydd gan Fforwm Celfyddydau Gwynedd stondin ym Mhabell Mantell Gwynedd ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni a fydd yn gweithredu fel pwynt gwybodaeth ar gyfer y sector Gelfyddydau yng Ngwynedd. Mae cyfle i unrhyw artist, ganolfan gelfyddydau neu fudiad celfyddydol o Wynedd yrru pamffledi a deunyddiau hyrwyddo atom i’w cynnwys ar y stondin. Gwelir hyn fel cyfle euraidd i hyrwyddo gwaith artistiaid unigol ac unrhyw ddigwyddiadau neu weithgareddau sy’n cymryd lle yng Ngwynedd. Dylai’r deunydd marchnata fod yn ddwyieithog os gwelwch yn dda ac mae’n ofynnol i’r deunydd gyrraedd yr ysgrifennydd erbyn dydd Llun 27 Gorffennaf. Mae hyn yn wasanaeth rhad ac am ddim.