Google Translate

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Google Translate

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 26 Gor 2009 8:08 pm

Mae Google Translate yn declyn sy'n ymgeisio i gyfieithu testun yn awtomatig. Nawr ni gyd yn gwybod bod y teclyn sydd ar gael ar hyn o bryd i gyfieithu testun i'r Gymraeg neu o'r Gymraeg yn uffernol o wallus, ond dyw hyn ddim yn meddwl bod rhaid i declyn Google fod yn wallus. Yn ogystal a system gwallus, camddefnydd y systemau cyfieithu arlein yma yw'r broblem yn aml.

Nid bwriad Google Translate yw cynnig cyfieithiad 'perffaith' o un iaith i'r llall, dim ond person gall wneud hynny, ond mae yn eich galluogi i 'ddeall' yn fras beth sy'n cael ei ddweud mewn ieithoedd eraill ar y we (os yw'n system da!!) ac mae potensial creu system sy'n galluogi pobl nad sy'n siarad y Gymraeg i ddeall eich cynnwys Cymraeg ar twitter, flickr, blog neu wefan hefyd. Ar hyn o bryd, mae Google Translate yn gallu cyfieithu rhwng :

Google a ddywedodd:Chinese (Simplified) * Chinese (Traditional) * Croatian * Czech * Danish * Dutch * Filipino * Finnish * French * German * Greek * Hebrew * Hindi * Indonesian * Italian * Japanese * Korean * Latvian * Lithuanian * Norwegian * Polish * Portuguese * Romanian * Russian * Serbian * Slovak * Slovenian * Spanish * Swedish * Ukrainian * Vietnamese


Fel chi'n gweld, yn anffodus dyw'r Gymraeg ddim ar y rhestr eto, ond mae Google yn agor y drws i gynnwys mwy o ieithoedd. Ar dudalen FAQ Google Translate mae'n dweud:

Google a ddywedodd:When will you support additional languages for translation?

We're working to support other languages and will introduce them as soon as the automatic translation meets our standards. It's difficult to project how long this will take, as the problem is complex and each language presents its own unique challenges.

In order to develop new systems, we need large amounts of bilingual texts. If you have large amounts of bilingual texts you'd like to contribute, please let us know.


Felly oes gan rhywun lot o destun dwyieithog o'r fath y gellid ei gynnig i Google?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Google Translate

Postiogan Hen Rech Flin » Llun 27 Gor 2009 2:55 am

Yr wyf wedi gweld trafodaeth ar y pwnc yma rhywle arall (ar un o’r blogiau rwy’n credu) ond rwy’n methu cael hyd iddi ar hyn o bryd.

Os gofiaf yn iawn mae Google yn defnyddio cofnodion y Cenhedloedd Unedig a Senedd Ewrop fel testun ar gyfer ei pheiriant. Os felly dydy hi ddim yn edrych yn addawol y bydd cyfieithydd Cymraeg ar gael yr och yma i annibyniaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Google Translate

Postiogan Rhodri Nwdls » Llun 27 Gor 2009 9:48 am

Ar Metastwnsh efallai?
Dim cyfieithu Cymraeg ar Google Translate

Mae na stori wedi codi ei ben heddiw yn y Wetern Mail sy’n adrodd nad yw Google am roi Cymraeg yn un o’r ieithoedd sydd ar gael yn Google Translate.

Ymddengys bod rhyw swyddog cyfathrebu o Google UK wedi cadarnhau ddoe nad yw’r Gymraeg yn flaenoriaeth, er bod ieithoedd llai fel Malteg yn rhan o’r feddalwedd eisoes.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb gan ddweud ei fod yn “warthus”* a bod hwn yn enghraifft berffaith o pam y dylid cynnwys y sector breifat yn yr LCO (ie, hwnnw’n codi ei ben eto fyth ar flog technoleg – sori am hynny).

Ond arhoswch am funud…mae hwnna’n eitha honiad. Mae’n dweud fod cael gwasanaeth cyfeithu gan Google yn wasanaeth cyhoeddus, megis derbyn gwasanaeth Cymraeg yn y banc, neu gael meddalwedd iaith Gymraeg ar eich ffôn symudol hyd yn oed. Mae’n un peth i ofyn am gael gwefannau Google ar gael i’w cyfieithu ochr-yn-ochr â phob iaith arall (mae llawer ar gael i’w cyfieithu gan y gymuned ond dyw Gmail ddim ar hyn o bryd) ond peth arall yw hawlio bod *rhaid* i Google ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar gyfer y Gymraeg. Ac mae dweud wedyn bod hwn yn enghraifft o pam bod angen ymestyn cwmpas yr hawliau i ddeddfu dros yr iaith yng Nghymru yn ogla braidd fel ceisio gwthio agenda ar stori sydd ddim wir yn ffitio.

Ydi peidio cael Google Translate yn y Gymraeg yn damsgen ar hawliau unigolyn i ddefnyddio’r iaith Gymraeg? Ym…nacdi, ddim wir. Ydi o am fod yn rhywbeth fyddai’n cael ei ddefnyddio’n feunyddiol megis OS ar ffôn symudol neu wefan gwsmeriaid cwmni trydan er enghraifft? Nacdi. Ydi o am fod lawer gwell nac Intertran am roi cyfieithiadau gwael i bobol anwybodus? Ddim cynddrwg, ond yn sicr fyddai o ddim yn berffaith.

Mae gor-ddweud yn gallu bod yn niweidiol weithiau, ond wedi’r cyfan, dyna yw ocsigen y Mul Gorllewinol a falle taw fi sy’n gor-ddadansoddi.

Y peth doniolaf am yr erthygl yw honiad Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru nad ydyn nhw eisiau’r gwasanaeth o gwbl oherwydd y byddai’n gwneud cyfieithiadau gwael…

“Translation packages can lead to mistakes being made and to bad translation,” said Geraint Wyn Parry, the association’s chief executive. The only way to get an accurate translation is through a professional translation service.”

Dim byd i wneud a gwarchod bucks cyfieithwyr tlawd Cymru felly Geraint!

Er, dwi wedi defnyddio Google Translate ar gyfer y Sbaeneg yn ddiweddar ac mae o ben ac ysgwyddau uwchben Babel Fish erbyn hyn. Syndod o gywir a dweud y gwir. Felly mae na bwynt difrifol fan hyn ynglŷn â’r niwed allai dyfais dda iawn wneud i un rhan o economi Cymru.

Da ni’n gobeithio cael perspectif cyfeithydd proffesiynol ar hyn ar y blog hwn cyn bo hir. Gwyliwch y gofod ‘ma!

* ydi “gwarthus” wedi colli ei holl rym fel gair erbyn hyn?…oes posib invoke cyfraith Poe gyda hwn? Ydi o tu hwnt i barodi?
Gwefannau, Meddalwedd


Gellir hefyd darllen sawl sylw pellach i'r gofnod yn y sylwadau.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Google Translate

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 27 Gor 2009 12:04 pm

Ymddiheuriadau am hynny. Dwi ddim yn cofio gweld yr erthygl yna ar metastwnsh, falle wnes i a jest wedi anghofio :winc: . Wnai ymateb ar y blog nawr i rhai o'r sylwadau penodol yna.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Google Translate

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 26 Awst 2009 5:29 pm

Mae modd defnyddio Google Translate nawr i gyfieithu o'r Gymraeg i nifer o ieithoedd eraill, ac hefyd i'r Gymraeg o ieithoedd eraill. Mae i weld lot yn well na'r un arall erchyll sydd ar gael, ond ddim yn berffaith o bell ffordd. Y peth da am hwn yw bod modd cyfrannu at y prosiect i'w wneud yn well. 8) http://translate.google.com/

Gweler enghraifft yma o un o dudalennau gwefan Cymdeithas yr Iaith wedi'i gyfieithu i'r Saesneg
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Google Translate

Postiogan Hazel » Mer 26 Awst 2009 5:44 pm

Diolch yn fawr, Hedd! Mae'n weithio! :D
Hazel

Gwell rhoi na derbyn -- yn enwedig cyngor. (Twain)
Hazel
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 530
Ymunwyd: Iau 12 Hyd 2006 9:27 pm
Lleoliad: Missouri, U.D.A

Re: Google Translate

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 27 Awst 2009 12:03 am

Er mwyn gwella safon y cyfieithu rhwng y Gymraeg a'r Saesneg, mae angen i Google fwydo lot o ddeunydd dwyieithog i mewn i'r system. Os oes gyda chi lot o ddeunydd sydd ar gael yn Gymraeg a'r Saesneg, gallwch chi eu cynnig i Google yma - http://www.google.com/support/contact/b ... h=Continue
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Google Translate

Postiogan Hen Rech Flin » Sul 30 Awst 2009 6:30 am

Rwy'n ansicr o fanteision yr allu i unrhyw un gynnig gwell cyfieithiad. Oni fydd pobl amaturaidd heb afael cadarn ar yr iaith yn gallu gwneud y gwasanaeth yn waeth, yn hytrach nag yn well, trwy gynnig cyfieithiadau o safon isel? Ar ben hynny mae yna ormod o fandaliaid gwrth Cymreig sydd â mynediad i'r we. Pa mor hir bydd hi cyn i frawddegau cwbl ddiniwed cael eu cyfieithu i I like shagging sheep ac ati o ganlyniad i ddifrod dan din gelynion yr iaith?
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Google Translate

Postiogan dafydd » Sul 30 Awst 2009 3:37 pm

Hen Rech Flin a ddywedodd:Rwy'n ansicr o fanteision yr allu i unrhyw un gynnig gwell cyfieithiad.

Mae Google yn gwybod beth mae nhw'n wneud. Dy'n nhw ddim yn derbyn unrhyw gyfieithiad unigol ond yn adeiladu cronfa ddata o bob awgrymiad a felly yn gallu gweld pa gyfuniad o eiriau sy'n dod i'r brig. Mae nhw hefyd yn gallu cymharu hyn gyda testunau 'safonol' i weld os yw'n cytuno.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Re: Google Translate

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sul 30 Awst 2009 5:25 pm

HRF - ti wedi f'atgoffa am hen sgets Monty Python gyda'r Llyfr Cymalau i Hwngariaid...mae fy llong hofran yn llawn o lysywod
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Nesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron