Google Translate

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Google Translate

Postiogan Kez » Sul 30 Awst 2009 6:40 pm

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:HRF - ti wedi f'atgoffa am hen sgets Monty Python gyda'r Llyfr Cymalau i Hwngariaid...mae fy llong hofran yn llawn o lysywod


Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Google Translate

Postiogan Hen Rech Flin » Sul 30 Awst 2009 10:37 pm

Mae o ar gael yn y Wyddeleg hefyd
http://www.irishtimes.com/newspaper/bre ... king45.htm

Is é mo long iomlán hovering eel Seonaidh
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Google Translate

Postiogan ger4llt » Llun 31 Awst 2009 12:10 pm

Sut mae'r system o gynnig cyfieithiad gwell i frawddeg/paragraff yn gweithio ta? A sut mae'r system yn profi mai dim 'cyfieithydd' amatur sy'n mynd ati i gynnig cyfieithiadau, fel o'dd HRF yn 'i boeni amdano? Ydi o'n ychwanegu'r brawddegau hyn i'r bas data, o bosib, a'i brofi ochr-yn-ochr â'r termau yn y gronfa ddata o dermau mwy cywir - h.y. y deunydd dwyieithog o'dd Hedd yn sôn amdano yn gynharach yn yr edefyn 'ma?

Beth bynnag, ma'n rhaid i mi ddweud bod y gwasanaeth yma ganwaith gwell na interTran - ma'n bosib deall beth mae'r testun yn sôn amdano'n fras yn llawer haws. Ond deall yn unig ar hyn o bryd yn anffodus - dydi o ddim yn gywir o bell ffordd, ac fel ma' pawb yn 'i weld, yn eitha doniol, yn taflu geiriau Cymraeg nad ydio'n gallu 'u cyfieithu yn ôl i'r frawddeg Saesneg. 'Dwi'n ffyddiog y bydd y system yma'n gwella dros amser - mater o gael mwy i gynnig cyfieithiadau gwell a darparu mwy o ddeunydd i Google. Da iawn Google - mae'n rhaid i mi ddeud! :D
Rhithffurf defnyddiwr
ger4llt
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 231
Ymunwyd: Sul 23 Medi 2007 2:24 pm
Lleoliad: Mewn ty bach twt yng nghefn yr ardd

Re: Google Translate

Postiogan Seonaidh/Sioni » Llun 31 Awst 2009 8:29 pm

Mae'r Wyddeleg yn crap llwyr wrth gymharu a'r Gymraeg ar Oogle Translate. Os dych chi'n rhoi i mewn brawddeg Gymraeg a deud wrth y peiriant am gyfieithu i'r Wyddeleg, bydd hanner y geiriau'n cael eu cyfieithu i'r Saesneg!
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Google Translate

Postiogan Hen Rech Flin » Maw 01 Medi 2009 2:06 am

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Mae'r Wyddeleg yn crap llwyr wrth gymharu a'r Gymraeg ar Oogle Translate. Os dych chi'n rhoi i mewn brawddeg Gymraeg a deud wrth y peiriant am gyfieithu i'r Wyddeleg, bydd hanner y geiriau'n cael eu cyfieithu i'r Saesneg!


Heb wybodaeth o'r Wyddeleg , dyna'r argraff gefais i o weld son am "hovering eel" o geisio troi "mae fy llong hofran yn llawn o lysywod" i'r Wyddeleg o'r Gymraeg.

Sydd yn awgrymu bod ieithoedd llai eu defnydd yn cael eu cyfieithu i'r Saesneg yn gyntaf ac yna i'r ail iaith lai ei ddefnydd, sydd yn well am wn i, na cheisio cyfieithu o'r Gymraeg i iaith arall heb unrhyw gorpws o'r iaith arall ar gael.

Y cwestiwn mawr yw pa iaith sydd yn ddiffygiol o ran hovering eel?

Dyma'r ateb:

English> Welsh: hofran llysywen

English> Irish: hovering eel

Y Gwyddelig, fe ymddengys sy'n ddiffygiol! Ond pwy sydd ar fai?

Difyr bod y peiriant wedi "cysylltu" lysywod a llysywen!

Yr wyf wedi bod yn pwyso ar awdurdodau'r Gymraeg i ryddhau eu corpws iaith Gymraeg i'r peiriannau am flynyddoedd heb lwyddiant. Ar bwy ddylid rhoi pwysau parthed corpws y Wyddeleg?
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Google Translate

Postiogan Gwenci Ddrwg » Iau 17 Medi 2009 5:24 am

Am wastraff o amser yn fy marn i....ma pob cyfieithiad awtomatig yn hollol erchyll (hyd yn oed rhwng ddwy iaith 'fawr' fel Ffrangeg a Saesneg ac efo'r feddalwedd orau ar gael yn y byd). Dwi'm eisiau swnio'n anfoesgar ond tybiwn bod 'na styff mwy pwysig i'w neud i gefnogi'r Gymraeg neu unrhyw iaith lai ei ddefnydd....

Os dych chi'n rhoi i mewn brawddeg Gymraeg a deud wrth y peiriant am gyfieithu i'r Wyddeleg, bydd hanner y geiriau'n cael eu cyfieithu i'r Saesneg!

Bydd petha'n cael eu chyfieithu i Saesneg cyn iddynt gael eu chyfieithu i iaith arall, tybiwn. Os ydy'r system yn methu gair tywyll bydd o'n rhoi'r term Saesneg yn ei le, heb ail-gyfieithiad (os di hynny'n neud synnwyr o gwbl). EDIT wps ma rhywun di ateb eisoes...
Heb wybodaeth o'r Wyddeleg , dyna'r argraff gefais i o weld son am "hovering eel" o geisio troi "mae fy llong hofran yn llawn o lysywod" i'r Wyddeleg o'r Gymraeg.

Neu falle oedd y cyfieithwr ar LSD...
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Google Translate

Postiogan nicdafis » Sul 27 Medi 2009 5:26 pm

tybiwn bod 'na styff mwy pwysig i'w neud i gefnogi'r Gymraeg


Gwenci yn codi sgwarnog?

Wrth gwrs mae rhaid mynd trwy'r Saesneg i fynd o'r Gymraeg i'r Wyddeleg: faint o gynnwys dwyieithog Cymraeg/Gwyddeleg sy'n bodoli, tybed? Mae hynny'n rhan o natur y technoleg. Dw i ddim yn gwybod hyn, ond tybiwn i ei fod e'n mynd trwy'r Sbaeneg wrth gyfieithu o Gatalaneg i Saesneg, er enghraifft, gan fod corpws mawr o ddogfennau Catalaneg/Sbaeneg ac o ddogfennau Sbaeneg/Saesneg, ond dim lot o stwff Catalaneg/Saesneg.

Gallwch chi bron â bod wylio'r broses mae Google yn defnyddio i wella safon y cyfieithu gan gymharu cyfieithiad tudalen Cymraeg (ar hap) S4C gyda'r fersiwn Saesneg gwreiddiol o'r un dudalen - oes, mae 'na wahaniaethau, ac mae 'na "wallau iaith", ond mae'n anodd dadlau nad ydy'r cyfieithiad awtomatig yn ddigon da i fod yn ddefynddiol i rywun sy ddim yn gallu darllen y Gymraeg gwreiddiol.

Ac mae hyn ar ôl llai rhyw fis o'r teclyn dechrau casglu cywiriadau.

Dw i'n credu bod y cyfieithwr uchod yn iawn i boeni am hyn: mae'n mynd i newid natur ei waith yn gyfan gwbl yn y blynyddoedd nesaf.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Google Translate

Postiogan Duw » Sul 27 Medi 2009 8:16 pm

Mae'r cynnydd yn anhygoel. Da iawn wir.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Google Translate

Postiogan Dylan » Iau 01 Hyd 2009 3:53 pm

mae datblygiad Google Translate yn reit gyffrous. Dyma'r gorau o'i fath, ac er nad ydi o ddim cweit yn berffaith mae'n gwella ar raddfa gyflym iawn

byddai'n rhoi'r farwol i'r hen bryderon am gostau cyfieithu i'r Gymraeg. A siwr gen i i'r diwydiant cyfieithu yng Nghymru hefyd! Edrych ymlaen am y dydd pryd ni fydd gan y twpsod gwrth-Gymraeg unrhyw esgus i swnio am "wastraff arian" yr iaith
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Re: Google Translate

Postiogan Rhodri Nwdls » Iau 01 Hyd 2009 7:28 pm

Ma Facebook hefyd newydd agor eu teclyn cyfieithu i gyfieithu pethau tu hwnt i ddim ond Facebook.

Felly bydd y gymuned a gyfieithodd Facebook i'r Gymraeg yn y ffordd mwya anhygoel yna, yn gallu gwneud yr un peth rwan trwy ddefnyddio Facebook Connect.

Yn y tymor byr, gallai hwn fod yn ddatblygiad mwy arwyddocaol na defnydd Google Translate ar gyfer cyfieithu petai digon o bobol yn ei ddefnyddio'n iawn.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

NôlNesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Google [Bot] a 6 gwestai

cron