Diolch, Hedd, am hysbysebu'r Sesiwn Holi ac Ateb: 'Oes modd i lywodraeth achub iaith?' yn y seiat Digwyddiadau. (Pabell y Cymdeithasau, dydd Mawrth 4 Awst am 2 o'r gloch.)
Rydym yn awyddus i dderbyn cwestiynau ar gyfer y panel ymlaen llaw. Os oes gennych gwestiwn, anfonwch e-bost at cymraeg@cymru.gsi.gov.uk
Y panelwyr fydd:
Alun Ffred Jones AC - Y Gweinidog dros Dreftadaeth
Menna Machreth - Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith
Ian Rees - Pennaeth Coleg Meirion-Dwyfor
Meri Huws - Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Simon Brooks - Darlithydd, Prifysgol Caerdydd
Diolch yn fawr,
Uned yr Iaith Gymraeg
Llywodraeth Cynulliad Cymru