Ffôn symudol 1af yn y Gymraeg

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ffôn symudol 1af yn y Gymraeg

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 10 Awst 2009 9:45 pm

Ie, gret fel man cychwyn, ond pam ddylai pobl sydd am rhyngwyneb Cymraeg orfod cael ei cyfyngu i un model o ffôn symudol, ar un tariff gyda un darparwr (Orange) yn unig? Gan fod Orange a Samsung wedi cydweithio ar y prosiect yma, dylai fod yn ddigon rhwydd ehangu'r gwasanaeth i'r darparwyr a gwneuthurwyr ffôn symudol eraill.

BBC Cymru: http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_8 ... 183676.stm
Metastwnsh: http://www.metastwnsh.com/ffon-yn-y-gymraeg/

http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/mid/8183247.stm
http://www.walesonline.co.uk/news/uk-ne ... -24317484/
http://www.walesonline.co.uk/news/wales ... -24311412/
http://www.northwaleschronicle.co.uk/ne ... wales.aspx
http://www.google.com/hostednews/ukpres ... QjktP1877g
http://www.mobilemarketingnews.co.uk/Sa ... 31258.html
http://experts.thelink.co.uk/2009/08/05 ... -speakers/
http://www.techradar.com/news/phone-and ... one-623067
http://www.reghardware.co.uk/2009/08/05 ... lsh_phone/
http://www.top10.co.uk/mobilephones/new ... _speakers/
http://www.engadget.com/2009/08/05/wels ... pp-in-one/
http://www.itpro.co.uk/613525/welsh-get ... bile-phone
http://ub-news.com/news/orange-samsung- ... /3611.html
http://www.technofinger.com/?p=1264
http://www.mobiletoday.co.uk/News/news.aspx?id=60326
http://www.unwiredview.com/2009/08/04/s ... om-orange/
http://www.t3.com/news/orange-announces ... ile?=40011
http://www.mobilenewscwp.co.uk/News/297 ... s5600.html
http://www.pocket-lint.com/news/news.ph ... 5600.phtml
http://www.whatmobile.net/News/mobileph ... range.html


Ond gweler hwn: http://www.itproportal.com/portal/news/ ... ile-phone/

More than 600,000 people in England speak Welsh
:ofn: :ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Ffôn symudol 1af yn y Gymraeg

Postiogan dewi_o » Maw 11 Awst 2009 7:09 am

Da iawn Orange. Man cychwyn o leiaf.

Beth am BT ?
Gwyn fyd cefnogwyr pel droed Wrecsam a Chymru:
Gwyn eu byd y rhai sy'n disgwyl dim, ni chant eu siomi.
Rhithffurf defnyddiwr
dewi_o
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 213
Ymunwyd: Sul 13 Mai 2007 9:52 am
Lleoliad: Caerffili

Re: Ffôn symudol 1af yn y Gymraeg

Postiogan HuwJones » Maw 11 Awst 2009 3:33 pm

Da iawn wir. Chwarae teg i Orange/Samsung.

Bydd rhaid imi safio fy arian i gael un yn lle'r fricsen di-Gymraeg sydd gennyf fi ar hyn o bryd

Yr unig reswm pam dydy ffonau symudol ddim wedi bod ar gael yn Gymraeg ers blynyddoedd yw bod bobl Cymru heb eu mynnu. Digon hawdd i'r cwmnïau i'w darparu. Yn anffodus mae bron pawb yn cymryd yn ganiataol bod un rhywbeth efo botwm arno 'yn gorfod bod yn Saesneg', fel roedd bobl arfer cymryd heb gwestiynu roedd rhaid i ysgolion, arwyddion etc i gyd fod Saesneg :ing:

Mae cyhoeddiad am y ffôn yma wedi cael cryn sylw a gobeithio wnaeth o helpu codi ymwybyddiaeth a disgwyliadau.
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Re: Ffôn symudol 1af yn y Gymraeg

Postiogan Chickenfoot » Maw 11 Awst 2009 9:11 pm

Mae'r pris yn uchel ofnadwy, ond mae'n syniad da.
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Ffôn symudol 1af yn y Gymraeg

Postiogan Madrwyddygryf » Mer 12 Awst 2009 4:56 pm

Diom yn ffon wych chwaith. I gymharu â fy E71 a be dwi'n gallu cael am £20 y mis ar 3, mae'n temtio o’n buaswn yn hoffi gweld modelau mwy soffisdigiedig yn dod allan gyda'r Gymraeg.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Ffôn symudol 1af yn y Gymraeg

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 12 Awst 2009 9:43 pm

Mae'r sector ffônau symudol wedi bod yn llafar iawn yn eu gwrthwynebiad i'r Gorchymyn Iaith, ac mae'r sinig ynddo i yn credu mai ymgais yw hwn i geisio tynnu'r awyr allan o hwyliau'r Gorchymyn iaith. Bydda'n nhw'n ceisio defnyddio hyn i ddweud nad oes angen datganoli grymoedd i'r Cynulliad, ac nad oes angen mesur iaith newydd sy'n cynnwys y sector, gan fod y sector wedi ymateb yn wirfoddol. Ond nonsens yw hyn. Beth sy'n cael ei gynnig yma yw UN model o ffôn symudol, gan UN darparwr ac UN tariff penodol. Ni fydd yn addas i llawer iawn o bobl yng Nghymru. Cwestiwn arall yw, a fydd modd cael biliau Cymraeg os yn prynu'r ffôn yma? Beth am Wasanaeth Cwsmeriaid yn y Gymraeg ar y we neu dros y ffôn? Pe byddai pob darparwr a phob gwneuthurwr ffôn symudol yn cynnig y Gymraeg fel opsiwn iaith ar eu HOLL ffonau, a bod modd cael biliau a gwasanaethau eraill trwy gyfrwng y Gymraeg dros y ffôn ac arlein, yna byddai'n fater arall, ond dwi ddim yn gweld hyn yn digwydd yn y tymor byr/canol. Dim ond trwy ddeddfwriaeth gref y bydd modd i ni gael yr hawl llawn i'r Gymraeg yn y sector, a dyna pam fod angen Gorchymyn Iaith eang sy'n caniatau Mesur Iaith cyflawn.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Ffôn symudol 1af yn y Gymraeg

Postiogan HuwJones » Iau 13 Awst 2009 9:53 am

Wnaeth Samsung/Orange dod allan a'r un ffôn yn Iwerddon yn Wyddelig y flwyddyn diwethaf
http://www.insideireland.ie/index.cfm/section/news/ext/ict004/category/1091

Buaswn i feddwl roedd Samsung/Orange eisiau gwneud eu marc yn y farchnad yn Iwerddon - oedd tan y 'crash' economaidd diweddar yn farchnad gwerthfawr a chystadleuol iawn. Cafodd lansiad y ffon Gwyddelig llwythi o sylw gan gyfryngau'r wlad - hysbysebu gwych - ac i gyd am ddim. Efallai eu bod yn gobeithio am yr un sylw draw fan hyn?

Beth bynnag yw rhesymau'r cwmniau - rwan bod un ffon Cymraeg - mae mwy o gyfle i bwyso ar gwmniau eraill Y broblem mwya wrth gwrs yw bod siaradwyr Cyrmaeg yn derbyn yn awtomatig bod cyfrifiaduron / ffonau etc yn "bethe Saesneg".

Y gorau bydd i Lywodraeth Cyrmu dilyn esiampl Llywodraeth Catalunya sydd yn mynnu bod brif darparwyr ffonau a gwasanaethau yn defnyddio'r Catalaneg. Dyma gwefan http://www.elteumobil.cat/ (Dy Moblie Di) yn dangos y dewis sydd ar gael yn yr iaith yno
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Re: Ffôn symudol 1af yn y Gymraeg

Postiogan Gruff Goch » Iau 27 Awst 2009 12:56 pm

Dwi'n edrych ymlaen i gael gafael ar y ffôn a dwi'n meddwl ei fod yn ddatblygiad sydd angen ei gefnogi fel bod pobl yn gofyn "pam na alla i gael fy ffôn i yn Gymraeg?" yn y dyfodol.

'Dan ni wedi trefnu digwyddiad i gael golwg hamddenol ar y ffôn dros beint ar nos Fawrth y lansio ym Mangor. Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb ymuno efo ni, a dwi'n siwr y byddwn ni'n trafod amryw o bethau technegol eraill sy'n ymwneud â'r Gymraeg yn ogystal â'r ffôn.

Dyma fanylion y 'digwyddiad':

Mae’r ffôn newydd Cymraeg yn cael ei lansio gan Orange ar ddydd Mawrth, y 1af o Fedi. I ddathlu, bydd criw meddal.com yn cyfarfod ym mar y Ganolfan Rheolaeth Busnes ym Mangor uchaf am 7pm, er mwyn chwarae gyda’r ffonau newydd a manteisio ar y cysylltiad diwifr a’r cyflenwad hyfryd o alcohol.

Yn ogystal â chael golwg iawn ar y ffonau, byddwn ni’n mynd ati i osod rhaglenni Cymraeg defnyddiol fel geiriadur Geiryn ac Y Termiadur ar ffonau’r mynychwyr, ac yn trafod technoleg a’r Gymraeg yn gyffredinol.

Mae croeso i unrhyw sydd â diddordeb ymuno â ni, felly dewch yn llu!

Lleoliad y Bar Busnes: http://www.bangor.ac.uk/management_cent ... act.php.cy
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Goch
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1148
Ymunwyd: Iau 12 Rhag 2002 1:22 pm
Lleoliad: neuadd fawr rhwng cyfyng furiau

Re: Ffôn symudol 1af yn y Gymraeg

Postiogan HuwJones » Mer 02 Medi 2009 12:25 pm

Er i 1af Medi cael ei hysbysebu fel diwrnod lansio'r ffôn Cymraeg 'ma - does dim ar gael eto - neu o leiaf does dim yn siop Orange Bangor a doedd dim dyddiad ganddynt pan byddent yn cyrraedd.

Unrhywun yn gwybod mwy?
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Re: Ffôn symudol 1af yn y Gymraeg

Postiogan Pendra Mwnagl » Mer 02 Medi 2009 9:02 pm

Bydd hi'n ddiddorol gweld pa mor galed bydd Orange yn hysbysebu'r ffôn 'ma. A fydd na sôn amdano ar wefan Orange? Ac a fyddant yn hysbysebu ar S4C? A sgwn i beth fydd lefel ymwybyddiaeth staff siopau Orange?

Efallai mod i'n hen sinic blin!
Rhithffurf defnyddiwr
Pendra Mwnagl
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 40
Ymunwyd: Iau 27 Ion 2005 9:25 pm
Lleoliad: Caerdydd

Nesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai