Os ydych chi eisiau'r ffon yma trwy gytundeb mae'n rhaid i chi gael cytundeb 24-mis. 'Di hynna ddim yn mynd i ddenu pobl i'w phrynu.
Dwi'n falch iawn bod yna ffon Gymraeg ar gael o'r diwedd. Gobeithio y bydd hyn yn sbarduno cwmniau eraill i wneud yr un peth fel nad oes rhaid i ni gael ein cyfyngu i un math o ffon yn unig.
Fy mhryder yw y bydd hyn yn cael ei ddefnyddio er mwyn dangos nad oes yna alw am wasanaethau Cymraeg. Yn yr un modd ag y mae rhai cwmniau yn dadlau nad oes galw am wasanaeth Cymraeg oherwydd niferoedd isel o ddefnyddwyr (tra'n anwybyddu'r ffaith nad yw'r gwasanaeth Cymraeg o'r un safon a'r un Saesneg) os nad oes llawer o bobl yn cael eu denu gan y math arbennig yma o ffon (oherwydd poblogrwydd yr iphone, system ebyst y Blackberry ayb) bydd Orange yn dadlau nad oes angen mwy o wasanaethau Cymraeg. Y pwynt yw nad opsiwn 'opt-in' ddylai'r Gymraeg fod, ond hawl sylfaenol ar hyd bob agwedd o fywyd.
Gobeithio wir nad hyn fydd yn digwydd, ac y bydd y ffon yn boblogaidd. 'Dyw hi ddim yn arwydd da nad oes modd pryun'r ffon ar y we eto (rhaid mynd i'r siope yng Nghymru er mwyn cael gafael ar un). Os oeddent o ddifri am ei hysbysebu, siawns na fyddai adran ar y we yn fuddiol?