Duw a ddywedodd:Odyn nhw ar gael yn y De? Os felly, ble?
Mi oedd o wedi cyrraedd siop Orange canol Queen Street, Caerdydd, ond dim ond yr un cytundeb 24 mis oedd ar gael tua pythefnos yn ol (falle bod hyn wedi newid rwan), ac mae'r poster Cymraeg i'w weld yn ffenest siop Orange canolfan siopa y Capitol hefyd.
xxglennxx a ddywedodd:Heia bawb,
...efo rhai dewislenni, nid oes dim geiriau ynddynt, megis efo'r Blutooth - nid oes dim geiriau yn y blychau o gwbl, ac roedd rhaid imi newid i'r Saesneg am sbel bach i'w ddefnyddio. Heblaw hynny, mae'n ffôn gwych
Tydy hynny ddim yn swnio'n addawol iawn. Wyt ti wedi cywyno? Efallai nad wyt tyn teimlo ei fod yn broblem mawr, ond dylai'r cwmni gael gwybod, rhag ofn bydd yr un peth yn digwydd os/pan gaiff opsiwn Cymraeg ei ychwnaegu ar fonau eraill.
Cyn clywed y cyhoeddiad yma am y ffon rhyngwyneb Cymraeg, roeddwn wedi darbwyllo fy hun i stopio bod yn gymaint o Gardi, a chael ffon newydd swish, er bod fy ffon 4/5 oed trydydd-llaw yn dal i weithio. Dw i'n amlwg yn awyddus i gael un rhyngwyneb Cymraeg ac hefyd eisiau cefnogi Orange am gymryd y cam cyntaf, ond o weld sylw Glenn a chlywed rhai o bethau ar adolygiad Metastwnsh, mae'n ymddangos mai ffon eil-radd yw hon.