Ffôn symudol 1af yn y Gymraeg

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Ffôn symudol 1af yn y Gymraeg

Postiogan joni » Maw 15 Medi 2009 11:04 am

Hogyn o Rachub a ddywedodd:"yn yr iaith Cymraeg..."

Ooo diar, gobeithio bod y Gymraeg ar y ffôn yn well na hynny...!

Ffantastic. Alle ti ddim sgwennu fe'n well na hynna. Dangos bod nw ddim rili'n bothered am y busnes ffôn Cymrâg ma. Jyst chydig o gyhoeddusrwydd ychwanegol i'r cwmni a falle cwpl o quid arall yn eu pocedi.
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Ffôn symudol 1af yn y Gymraeg

Postiogan HuwJones » Gwe 25 Medi 2009 12:52 pm

Newydd gael un o Siop Orange y Rhyl. Y cyntaf i’w wneud yno yn ôl y staff. Roedd y staff yn ofnadwy o glên gyda llaw... ac un ohonynt yn siarad Cymraeg.

Dywedon nhw bod y siop wedi cael llythyron yn gofyn iddynt ddarparu stwff Cymraeg ac roedden nhw’n o’r farn bod y ffôn Cymraeg yma ar gael i weld faint o alw sydd

Dwi heb gael cyfle i ddefnyddio’r ffôn yn eto, mae o’n edrych yn lyfli ifi. :)

Oes na unrhywun arall wedi cael un?
Mae na dros biliwn o ffons mobile yn y byd.. paid a dweud mod i yw'r unig un i gael un Cymraeg???
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Re: Ffôn symudol 1af yn y Gymraeg

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 25 Medi 2009 7:07 pm

HuwJones a ddywedodd:Newydd gael un o Siop Orange y Rhyl. Y cyntaf i’w wneud yno yn ôl y staff. Roedd y staff yn ofnadwy o glên gyda llaw... ac un ohonynt yn siarad Cymraeg.

Dywedon nhw bod y siop wedi cael llythyron yn gofyn iddynt ddarparu stwff Cymraeg ac roedden nhw’n o’r farn bod y ffôn Cymraeg yma ar gael i weld faint o alw sydd

Dwi heb gael cyfle i ddefnyddio’r ffôn yn eto, mae o’n edrych yn lyfli ifi. :)

Oes na unrhywun arall wedi cael un?
Mae na dros biliwn o ffons mobile yn y byd.. paid a dweud mod i yw'r unig un i gael un Cymraeg???


Oedd posteri mawr Cymraeg yn y ffenestri yn hysbysebu'r ffon yma?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Ffôn symudol 1af yn y Gymraeg

Postiogan HuwJones » Gwe 25 Medi 2009 7:40 pm

Oedd posteri mawr Cymraeg yn y ffenestri yn hysbysebu'r ffon yma?


Oedd
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Re: Ffôn symudol 1af yn y Gymraeg

Postiogan Duw » Gwe 25 Medi 2009 9:03 pm

Odyn nhw ar gael yn y De? Os felly, ble?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Ffôn symudol 1af yn y Gymraeg

Postiogan xxglennxx » Sul 27 Medi 2009 9:51 pm

Heia bawb,

Dwi newydd gael y ffôn Cymraeg (wel, ddoe), ac yn fy marn i, y mae yn dda iawn, ond ceir rhai pethau sydd yn fater efo'r ffôn - efo rhai dewislenni, nid oes dim geiriau ynddynt, megis efo'r Blutooth - nid oes dim geiriau yn y blychau o gwbl, ac roedd rhaid imi newid i'r Saesneg am sbel bach i'w ddefnyddio. Heblaw hynny, mae'n ffôn gwych :D
xxglennxx
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Iau 12 Ebr 2007 4:00 pm
Lleoliad: Caergybi

Re: Ffôn symudol 1af yn y Gymraeg

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 27 Medi 2009 10:17 pm

Mae podlediad 1af metastwnsh yn trafod y ffon Cymraeg yma hefyd - http://metastwnsh.com/podlediad-ar-lein/ 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Ffôn symudol 1af yn y Gymraeg

Postiogan Rhys » Maw 29 Medi 2009 12:37 pm

Duw a ddywedodd:Odyn nhw ar gael yn y De? Os felly, ble?


Mi oedd o wedi cyrraedd siop Orange canol Queen Street, Caerdydd, ond dim ond yr un cytundeb 24 mis oedd ar gael tua pythefnos yn ol (falle bod hyn wedi newid rwan), ac mae'r poster Cymraeg i'w weld yn ffenest siop Orange canolfan siopa y Capitol hefyd.

xxglennxx a ddywedodd:Heia bawb,

...efo rhai dewislenni, nid oes dim geiriau ynddynt, megis efo'r Blutooth - nid oes dim geiriau yn y blychau o gwbl, ac roedd rhaid imi newid i'r Saesneg am sbel bach i'w ddefnyddio. Heblaw hynny, mae'n ffôn gwych :D


Tydy hynny ddim yn swnio'n addawol iawn. Wyt ti wedi cywyno? Efallai nad wyt tyn teimlo ei fod yn broblem mawr, ond dylai'r cwmni gael gwybod, rhag ofn bydd yr un peth yn digwydd os/pan gaiff opsiwn Cymraeg ei ychwnaegu ar fonau eraill.


Cyn clywed y cyhoeddiad yma am y ffon rhyngwyneb Cymraeg, roeddwn wedi darbwyllo fy hun i stopio bod yn gymaint o Gardi, a chael ffon newydd swish, er bod fy ffon 4/5 oed trydydd-llaw yn dal i weithio. Dw i'n amlwg yn awyddus i gael un rhyngwyneb Cymraeg ac hefyd eisiau cefnogi Orange am gymryd y cam cyntaf, ond o weld sylw Glenn a chlywed rhai o bethau ar adolygiad Metastwnsh, mae'n ymddangos mai ffon eil-radd yw hon.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Ffôn symudol 1af yn y Gymraeg

Postiogan HuwJones » Maw 29 Medi 2009 1:16 pm

mae'n ymddangos mai ffon eil-radd yw hon.


Dwi wedi prynu un a dwi DDIM yn meddwl ei fod yn eilradd o gwbl.

Dwi wedi clywed Podledlaid Metastwnsh, maen nhw'n meddwl bod y ffôn yn iawn hefyd... ond maen nhw'n gwneud y pwynt digon teb bod 'na fodelau eraill efo mwy o bethe ffansi tasa apelio'n fwy bobl ifanc / 'gadet freeks' (ee iPhone). Dwi'n falch dwi wedi cael y ffôn a heb sylwi ar ddim problemau arni... ond dwi heb ffidlan efo'r peth Bluetooth eto.

Pan es i'r siop y tro cyntaf dim ond y rhai contract oedd ar gael, ond erbyn wythnos diwethaf roedd y rhai talu-wrth-fynd mewn stoc hefyd.

Gobeithio bydd y ffôn yma'n llwyddiannus a bydd cwmnïau eraill yn cynnig mwy o Gymraeg.

Dw i'n amlwg yn awyddus i gael un rhyngwyneb Cymraeg ac hefyd eisiau cefnogi Orange am gymryd y cam cyntaf

... go ffor it
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Re: Ffôn symudol 1af yn y Gymraeg

Postiogan xxglennxx » Maw 29 Medi 2009 5:44 pm

Rhys a ddywedodd:Tydy hynny ddim yn swnio'n addawol iawn. Wyt ti wedi cywyno? Efallai nad wyt tyn teimlo ei fod yn broblem mawr, ond dylai'r cwmni gael gwybod, rhag ofn bydd yr un peth yn digwydd os/pan gaiff opsiwn Cymraeg ei ychwnaegu ar fonau eraill. Cyn clywed y cyhoeddiad yma am y ffon rhyngwyneb Cymraeg, roeddwn wedi darbwyllo fy hun i stopio bod yn gymaint o Gardi, a chael ffon newydd swish, er bod fy ffon 4/5 oed trydydd-llaw yn dal i weithio. Dw i'n amlwg yn awyddus i gael un rhyngwyneb Cymraeg ac hefyd eisiau cefnogi Orange am gymryd y cam cyntaf, ond o weld sylw Glenn a chlywed rhai o bethau ar adolygiad Metastwnsh, mae'n ymddangos mai ffon eil-radd yw hon.


Naddo - dwi heb gwyno eto. Dwi ddim yn gwybod at bwy dylaf gwyno a dweud y gwir. Prynodd fy ffrind yr un ffôn efo'r rhyngwyneb Cymraeg, ac dwi'n ei gweld ddydd Iau, felly edrychaf ar ei ffôn hi i weld os yw'r problem ganddi hefyd (a dof yn ôl atoch i gyd).
xxglennxx
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Iau 12 Ebr 2007 4:00 pm
Lleoliad: Caergybi

Nôl

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron