Ffôn symudol 1af yn y Gymraeg

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Ffôn symudol 1af yn y Gymraeg

Postiogan Creyr y Nos » Iau 03 Medi 2009 9:34 am

Os ydych chi eisiau'r ffon yma trwy gytundeb mae'n rhaid i chi gael cytundeb 24-mis. 'Di hynna ddim yn mynd i ddenu pobl i'w phrynu.

Dwi'n falch iawn bod yna ffon Gymraeg ar gael o'r diwedd. Gobeithio y bydd hyn yn sbarduno cwmniau eraill i wneud yr un peth fel nad oes rhaid i ni gael ein cyfyngu i un math o ffon yn unig.

Fy mhryder yw y bydd hyn yn cael ei ddefnyddio er mwyn dangos nad oes yna alw am wasanaethau Cymraeg. Yn yr un modd ag y mae rhai cwmniau yn dadlau nad oes galw am wasanaeth Cymraeg oherwydd niferoedd isel o ddefnyddwyr (tra'n anwybyddu'r ffaith nad yw'r gwasanaeth Cymraeg o'r un safon a'r un Saesneg) os nad oes llawer o bobl yn cael eu denu gan y math arbennig yma o ffon (oherwydd poblogrwydd yr iphone, system ebyst y Blackberry ayb) bydd Orange yn dadlau nad oes angen mwy o wasanaethau Cymraeg. Y pwynt yw nad opsiwn 'opt-in' ddylai'r Gymraeg fod, ond hawl sylfaenol ar hyd bob agwedd o fywyd.


Gobeithio wir nad hyn fydd yn digwydd, ac y bydd y ffon yn boblogaidd. 'Dyw hi ddim yn arwydd da nad oes modd pryun'r ffon ar y we eto (rhaid mynd i'r siope yng Nghymru er mwyn cael gafael ar un). Os oeddent o ddifri am ei hysbysebu, siawns na fyddai adran ar y we yn fuddiol?
'Don't piss down my back and tell me it's rainin' - The Outlaw Josey Wales

Dewrion yw adar y nos
Rhithffurf defnyddiwr
Creyr y Nos
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 395
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 8:30 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Ffôn symudol 1af yn y Gymraeg

Postiogan HuwJones » Iau 03 Medi 2009 11:09 am

Fy mhryder yw y bydd hyn yn cael ei ddefnyddio er mwyn dangos nad oes yna alw am wasanaethau Cymraeg

Dwi'n poeni am hynny hefyd.

Cafodd datganiad am lansio'r ffôn llwythi o sylw, dim jyst yng Nghymru ond trwy'r cyhoeddiadau a gwefannau arbenigol i gyd, gan rhoi lot o gyhoeddusrwydd am ddim i brandiau Samsung ac Orange. Os maent yn gallu troi rownd mewn ychydig o fisoedd a hefyd dweud eu bod wedi cynnig rhybeth yn Gymaeg ond doedd neb yn ei brynu mae'n meddwl bydd ganddynt ateb perffaith i ddadlau yn erbyn cwmniau ffôn cael eu cynnwys o dan Deddf Iaith newydd.

Y wir yw bod pob un cwmni ffôn a chyfrifiadur yn gallu cynnwys opsiynau Gymraeg fel maen nhw'n gwneud yn awtomatig i lwythi o ieithoedd eriall. Mae'r termau i gyd yno iddynt ac mae eu technoleg yn gallu cynnwys opsiynnau di-bendraw.

Os nad yw'r ffons yn cyrraedd y siopau'n fuan iawn dylai CyIG etc mynd ar yr offensif a thynnu sylw i hyn i gyd. Dwi'n meddwl gorau po mwya o sylw mae'r syniad o gael technoleg newydd yn Gymraeg yn cael y gorau..mae disgwylaidau saradwyr Cyrmaeg o gael eu hiaith ar ffons a chyfrifiaduron yn isel iawn.
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Re: Ffôn symudol 1af yn y Gymraeg

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 08 Medi 2009 11:54 am

Samsung S5600
Delwedd
Gwybodaeth ar wefan Orange

Newydd gael y wybodaeth yma trwodd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg:

Nid menter ar y cyd rhwng y Bwrdd, Orange a Samsung yw’r ffon newydd. Cafodd y gwaith ei arwain gan Samsung, datblygwyd y ffon ar y cyd a Orange, a dim ond cynnig sylwadau a chyngor ar y teclyn terfynol y gwnaeth y Bwrdd. Nid yw’r Bwrdd wedi talu am unrhyw ran o’r gwaith na’r lansio.

Rwy’i wedi danfon dy neges ymlaen at Orange, ond yn y cyfamser dyma ateb cystal a medraf:

1 – A fydd modd prynu'r ffôn yma arlein ar wefan Orange a gwefannau cwmniau eraill sy'n gwerthu ffonau symudol? Bydd y manylion arlein yn Gymraeg?
Dwn i ddim a fydd y ffon ar gael ar wefan Orange na chwmniau eraill. Byddwn i ddim yn disgwyl y bydd y manylion hynny ar gael yn gyfan yn y Gymraeg. Cynigiaf i Orange eu bod yn cynnwys y Gymraeg fel rhan o ddisgrifiad y ffon ar eu gwefan nhw, os byddant yn ei gynnwys yno.

2 – Yw'r ffôn yma ar gael fel PAYG ac ar gytundeb, a beth fydd y gost?
Mae’r ffon ar gael ar PAYG (£129) ac ar gytundeb (cost amrywiol, am ddim gyda tariffs mwy drud).

3 – A fydd y ffôn yma ar gael ym mhob siop swyddogol Orange yng Nghymru, ac a fydd deunydd hyrwyddo dwyieithog (taflenni a phosteri) yn cael eu danfon at bob siop. Pryd fydd hyn yn digwydd?
Fel rwy’n deall, bydd y ffon ar gael ym mhob siop Orange yng Nghymru, a bydd deunydd hyrwyddo perthnasol yn ddwyieithog. Ni wn beth yw rhaglen Orange am ddosbarthu’r nwyddau na’r hysbysrwydd. 1af Medi oedd y dyddiad “argaeledd” swyddogol.

4 – A fydd y ffôn ar gael i'w brynu mewn siopau eraill sy'n gwerthu ffonau symudol Orange?
Deallaf mai’r bwriad yw ymestyn argaeledd y ffon i siopau eraill yn y flwyddyn newydd. Dwn i ddim i ba raddau mae hynny’n amodol ar lwyddiant gwerthu’r ffon trwy siopau Orange yn unig o fis Medi tan y Nadolig.

5 – A fydd llinell gymorth Cymraeg ar gael?
Rhywbryd, efallai, ond ddim ar hyn o bryd. Rydym yn annog Orange i ddarparu gwasanaeth cwsmer dwyieithog yng Nghymru, ond mater iddyn nhw benderfynu arno, neu i’w ddarparu trwy ofynion Mesur yn y dyfodol, fyddai hynny

6 – A fydd modd cael biliau trwy gyfrwng y Gymraeg?
Unwaith eto, rhywbryd, efallai, ond ddim ar hyn o bryd.

Gobeithio bod hwn o gymorth i ti.


Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Ffôn symudol 1af yn y Gymraeg

Postiogan LLewMawr » Maw 08 Medi 2009 8:09 pm

wel dwi wedi trio siop penybont ar ogwr a'r ddau siop yng nghaerdydd. mae'r ffon dal ar y ffordd yn ol nhw
...pleidiol wyf i'm gwlad...
Rhithffurf defnyddiwr
LLewMawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 88
Ymunwyd: Maw 08 Ebr 2008 10:47 am
Lleoliad: Penybont, De Cymru

Re: Ffôn symudol 1af yn y Gymraeg

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 15 Medi 2009 9:29 am

Oddi ar Twitter:
@GruffPrys: Ffôn #Cymraeg Orange ar gael bore 'ma o siop Orange Bangor. Dyma'r poster hysbyseb tu allan o'r siop. http://yfrog.com/0rhrxj

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Ffôn symudol 1af yn y Gymraeg

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 15 Medi 2009 9:36 am

"yn yr iaith Cymraeg..."

Ooo diar, gobeithio bod y Gymraeg ar y ffôn yn well na hynny...!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Ffôn symudol 1af yn y Gymraeg

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 15 Medi 2009 9:57 am

Hogyn o Rachub a ddywedodd:"yn yr iaith Cymraeg..."

Ooo diar, gobeithio bod y Gymraeg ar y ffôn yn well na hynny...!


Ie, wnes i sylwi ar hynny... :?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Ffôn symudol 1af yn y Gymraeg

Postiogan joni » Maw 15 Medi 2009 11:04 am

Hogyn o Rachub a ddywedodd:"yn yr iaith Cymraeg..."

Ooo diar, gobeithio bod y Gymraeg ar y ffôn yn well na hynny...!

Ffantastic. Alle ti ddim sgwennu fe'n well na hynna. Dangos bod nw ddim rili'n bothered am y busnes ffôn Cymrâg ma. Jyst chydig o gyhoeddusrwydd ychwanegol i'r cwmni a falle cwpl o quid arall yn eu pocedi.
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Ffôn symudol 1af yn y Gymraeg

Postiogan HuwJones » Gwe 25 Medi 2009 12:52 pm

Newydd gael un o Siop Orange y Rhyl. Y cyntaf i’w wneud yno yn ôl y staff. Roedd y staff yn ofnadwy o glên gyda llaw... ac un ohonynt yn siarad Cymraeg.

Dywedon nhw bod y siop wedi cael llythyron yn gofyn iddynt ddarparu stwff Cymraeg ac roedden nhw’n o’r farn bod y ffôn Cymraeg yma ar gael i weld faint o alw sydd

Dwi heb gael cyfle i ddefnyddio’r ffôn yn eto, mae o’n edrych yn lyfli ifi. :)

Oes na unrhywun arall wedi cael un?
Mae na dros biliwn o ffons mobile yn y byd.. paid a dweud mod i yw'r unig un i gael un Cymraeg???
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Re: Ffôn symudol 1af yn y Gymraeg

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 25 Medi 2009 7:07 pm

HuwJones a ddywedodd:Newydd gael un o Siop Orange y Rhyl. Y cyntaf i’w wneud yno yn ôl y staff. Roedd y staff yn ofnadwy o glên gyda llaw... ac un ohonynt yn siarad Cymraeg.

Dywedon nhw bod y siop wedi cael llythyron yn gofyn iddynt ddarparu stwff Cymraeg ac roedden nhw’n o’r farn bod y ffôn Cymraeg yma ar gael i weld faint o alw sydd

Dwi heb gael cyfle i ddefnyddio’r ffôn yn eto, mae o’n edrych yn lyfli ifi. :)

Oes na unrhywun arall wedi cael un?
Mae na dros biliwn o ffons mobile yn y byd.. paid a dweud mod i yw'r unig un i gael un Cymraeg???


Oedd posteri mawr Cymraeg yn y ffenestri yn hysbysebu'r ffon yma?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

NôlNesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron