Mis o Garchar i drefnydd Cymdeithas yr Iaith yn y gogledd

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Mis o Garchar i drefnydd Cymdeithas yr Iaith yn y gogledd

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 19 Awst 2009 2:05 pm

cymdeithas.org a ddywedodd:Mis o Garchar i drefnydd Cymdeithas yr Iaith yn y gogledd

Cafodd Osian Jones, trefnydd Cymdeithas yr Iaith yn y gogledd, ddedfryd o fis o garchar wedi ei ohirio gan Lys Ynadon Pwllheli heddiw, am greu difrod troseddol i eiddo siopau PC World a Matalan ym Mangor, wedi iddo godi sticeri a phosteri ar y siopau ym mis Mai, yn galw am Fesur Iaith cyflawn sy'n cynnwys y sector breifat, ac yn cyfathrebu'r neges fod y Gorchymyn Iaith fel y mae yn rhy gul, ac yn rhwystro ffordd pobl Cymru at eu hawliau i'r Gymraeg.

Roedd y diffynnydd wedi gofyn i'r Ynadon i roi rhyddhad iddo yn hytrach na dirwy er mwyn dangos eu dirmyg at ymddygiad y ddwy siop fawr, sy'n gwrthod darparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg i'w cwsmeriaid.

Penderfynodd Ynadon Pwllheli roi rhyddhad amodol iddo, a gorchymynnwyd iddo dalu £200 o gostau Llys am y gwrandawiad heddiw, ond dywedodd Osian wrth yr Ynadon na fyddai'n talu unrhyw ddirwy na chostau. O ganlyniad rhoddodd yr Ynadon 28 diwrnod o garchar iddo os na fyddai'n talu o fewn 28 diwrnod gostau heddiw a hefyd dirywion am ei weithredoedd blaenorol yn yr un ymgyrch, sy'n dod i gyfanswm o £1,100. Wrth ddod allan o'r Llys dywedodd Osian:

"Rwy'n falch bod Ynadon Pwllheli wedi dangos cefnogaeth trwy roi rhyddhad heddiw. Ond rwyf wedi esbonio na fyddai'n talu'r costau na'r dirywion blaenorol ac felly byddaf yn derbyn y ddedfryd o 28 diwrnod o garchar."

Yn y Llys, rhybuddiodd Osian Jones y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, a gweddill Llywodraeth y Cynulliad, fod yr amser yn prinhau i fedru trosglwyddo'r pwerau dros y Gymraeg i Gymru cyn yr etholiad nesaf. Dywedodd fod y Gweinidog Treftadaeth yn euog o beidio gwneud mwy i sicrhau Gorchymyn eang a fyddai'n datganoli grymoedd llawn dros y Gymraeg i Gymru, a bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn euog o rwystro taith y Gorchymyn. Dywedodd:

"Rydym yn siomedig gyda'r hyn sy'n cael ei gynnig yn y Gorchymyn Iaith gan y Gweinidog Treftadaeth ar hyn o bryd. Mae Alun Ffred Jones yn deall yn iawn sefyllfa fregus yr iaith Gymraeg, ac felly mae cyfrifoldeb mawr arno i weithredu'n bositif o blaid y Gymraeg. Yr her iddo yw deddfu er mwyn gwneud gwahaniaeth fel y mae deddfu wedi gwneud gwahaniaeth mewn meysydd eraill o anghydraddoldeb."

Cyn bydd modd i'r Cynulliad basio Mesur Iaith Cyflawn, rhaid i'r pwerau dros yr iaith Gymraeg gael eu datganoli i Gymru trwy'r broses Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol. Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Alun Ffred Jones i ehangu sgôp y Gorchymyn Iaith, er mwyn datganoli'r pwerau llawn dros y Gymraeg o Lundain i Gymru. Ychwanegodd Osian Jones:

"Cafodd tystiolaeth ddiamheuol ei roi gerbron Pwyllgorau yn y Cynulliad a San Steffan o'r angen i drosglwyddo pwerau llawn dros y Gymraeg i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r cyfnod trafod wedi dod i ben, mae'n hen bryd yn awr i Alun Ffred weithredu!"
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Mis o Garchar i drefnydd Cymdeithas yr Iaith yn y gogledd

Postiogan HuwJones » Iau 20 Awst 2009 3:53 pm

am greu difrod troseddol i eiddo siopau PC World a Matalan ym Mangor, wedi iddo godi sticeri a phosteri


Mae gweithredu yn cael ei gosbi'n drwm iawn y dyddiau yma, doedd yr heddlu byth yn cyhuddio am fater bach o sticio sticeri ers talwm

Da iawn Osian am dy waith, brynaf beint(iau) it!
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn

Re: Mis o Garchar i drefnydd Cymdeithas yr Iaith yn y gogledd

Postiogan Seonaidh/Sioni » Iau 20 Awst 2009 7:26 pm

Ble mae o, gyda llaw? Amwythig?
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Mis o Garchar i drefnydd Cymdeithas yr Iaith yn y gogledd

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 20 Awst 2009 8:05 pm

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Ble mae o, gyda llaw? Amwythig?


Mae gan Osian mis i dalu £1,100 cyn cael ei ddanfon i'r carchar, ond nid yw'n bwriadu talu, felly disgwylir iddo gael ei arestio a'i ddanfon i'r carchar am fis tua canol mis nesaf.

Stori ar wefan Golwg360 - http://www.golwg360.com/UI/News/ViewNew ... domainID=0
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin


Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron