Dyma ddatganiad gan Gymdeithas yr Iaith heddiw. Erthygl arbennig gan Gwion Lewis yn Barn hefyd.
cymdeithas.org a ddywedodd:Cymdeithas am gael Cyngor Cyfreithiol yngl?n a'r Cofnod
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg am gael cyngor cyfreithiol i weld os oes modd herio penderfyniad Comisiwn y Cynulliad ddechrau Awst i roi'r gorau i gynhyrchu trawsgrifiadau dwyieithog o gyfarfodydd llawn y Cynulliad. Dywedodd Dafydd Morgan Lewis ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
"Yr ydym wedi cwyno mewn llythyr at y Comisiwn yngl?n â'r mater hwn eisoes. Yn y llythyr hwnnw bu i ni bwysleisio fod y penderfyniad yn dangos gwendid yn y Ddeddf iaith bresennol lle mae cyrff yn gallu creu polisïau iaith ac yna eu hanwybyddu yn llwyr."
"Bu i ni hefyd bwysleisio fod hyn yn gosod esiampl wael i gyrff eraill yn y sector gyhoeddus i i anwybyddu eu Cynlluniau Iaith a dechrau cwtogi ar eu gwasanaethau dwyieithog gan ddefnyddio penderfyniad y Cynulliad fel esgus dros wneud hynny."
"Yn yr un modd tybiem y gallai penderfyniad y Comisiwn gael effaith yr un mor andwyol ar y sector breifat gan fod pwysau ar hyn o bryd ar iddynt hwythau fabwysiadu polisïau dwyieithog hefyd. Yn eu hateb i ni mae'r Comisiwn yn mynnu fod y cyfieithu yn rhy ddrud a dyna'r union ddadl a ddefnyddir gan y sector breifat dros beidio a defnyddio'r Gymraeg"
"Mae'n drist meddwl fod Llywydd y Cynulliad yn rhan o'r penderfyniad hwn gan ei fod yn adlewyrchiad o feddylfryd trefedigaethol a thaeogaidd sydd yn gwbwl annheilwng o wlad sy'n mynnu ei bod yn trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal."
"Ond fel y pwysleisiais ar y dechrau ein nod yn awr fydd ystyried os oes modd herio y penderfyniad hwn yn gyfreithiol gan ein bod o'r farn fod y Comisiwn wedi torri'r ddeddf."