Dim cyfieithu cofnod Cyfarfodydd llawn Cynulliad i'r Gymraeg

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Dim cyfieithu cofnod Cyfarfodydd llawn Cynulliad i'r Gymraeg

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 03 Medi 2009 11:32 am

Does dim edefyn ar hyn y tro yma, er bod edefyn byrlymus y tro diwethaf i Dafydd El geisio gwneud hyn...

Dyma ddatganiad gan Gymdeithas yr Iaith heddiw. Erthygl arbennig gan Gwion Lewis yn Barn hefyd.

cymdeithas.org a ddywedodd:Cymdeithas am gael Cyngor Cyfreithiol yngl?n a'r Cofnod

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg am gael cyngor cyfreithiol i weld os oes modd herio penderfyniad Comisiwn y Cynulliad ddechrau Awst i roi'r gorau i gynhyrchu trawsgrifiadau dwyieithog o gyfarfodydd llawn y Cynulliad. Dywedodd Dafydd Morgan Lewis ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

"Yr ydym wedi cwyno mewn llythyr at y Comisiwn yngl?n â'r mater hwn eisoes. Yn y llythyr hwnnw bu i ni bwysleisio fod y penderfyniad yn dangos gwendid yn y Ddeddf iaith bresennol lle mae cyrff yn gallu creu polisïau iaith ac yna eu hanwybyddu yn llwyr."

"Bu i ni hefyd bwysleisio fod hyn yn gosod esiampl wael i gyrff eraill yn y sector gyhoeddus i i anwybyddu eu Cynlluniau Iaith a dechrau cwtogi ar eu gwasanaethau dwyieithog gan ddefnyddio penderfyniad y Cynulliad fel esgus dros wneud hynny."

"Yn yr un modd tybiem y gallai penderfyniad y Comisiwn gael effaith yr un mor andwyol ar y sector breifat gan fod pwysau ar hyn o bryd ar iddynt hwythau fabwysiadu polisïau dwyieithog hefyd. Yn eu hateb i ni mae'r Comisiwn yn mynnu fod y cyfieithu yn rhy ddrud a dyna'r union ddadl a ddefnyddir gan y sector breifat dros beidio a defnyddio'r Gymraeg"

"Mae'n drist meddwl fod Llywydd y Cynulliad yn rhan o'r penderfyniad hwn gan ei fod yn adlewyrchiad o feddylfryd trefedigaethol a thaeogaidd sydd yn gwbwl annheilwng o wlad sy'n mynnu ei bod yn trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal."

"Ond fel y pwysleisiais ar y dechrau ein nod yn awr fydd ystyried os oes modd herio y penderfyniad hwn yn gyfreithiol gan ein bod o'r farn fod y Comisiwn wedi torri'r ddeddf."
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin


Re: Dim cyfieithu cofnod Cyfarfodydd llawn Cynulliad i'r Gymraeg

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 03 Medi 2009 4:32 pm

Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Dim cyfieithu cofnod Cyfarfodydd llawn Cynulliad i'r Gymraeg

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 04 Medi 2009 8:42 am

Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Dim cyfieithu cofnod Cyfarfodydd llawn Cynulliad i'r Gymraeg

Postiogan Seonaidh/Sioni » Gwe 04 Medi 2009 7:50 pm

Anghredadwy ynte. Ond yn anffodus mae arna i ofn na fydd y llwybr cyfreithiol yn gweithio. Ceisiwch, wrth gwrs - mae'n werth ceisio popeth. Ond rhaid wrth rywbeth yn fwy na hyn.

Yn yr Alban, os bydd ASA (BPA, MSP) eisiau defnyddio'r Aeleg yn y Siambr, rhaid rhoi rhybudd er mwyn cael y staff cyfieithu (fel mae';n digwydd, does na ddim ond 2 ASA sy'n medru'r Aeleg yn rhugl - dyma be glywais i beth bynnag). Be dy'r sefyllfa yn y Cynulliad? Os ydy hi'n debyg i hon Senedd yr Alban, bydd tipyn o anghofio rhoi rhybudd yn rhywbeth i feddwl amdani. Fodd bynnag, rwi'n sicr fod na lot o bethau fel hynny y gellid eu defnyddio i wneud pethau braidd yn anodd i weithrediad y Cynulliad.
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha


Re: Dim cyfieithu cofnod Cyfarfodydd llawn Cynulliad i'r Gymraeg

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 19 Medi 2009 9:27 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:
cymdeithas.org a ddywedodd:"Yn yr un modd tybiem y gallai penderfyniad y Comisiwn gael effaith yr un mor andwyol ar y sector breifat gan fod pwysau ar hyn o bryd ar iddynt hwythau fabwysiadu polisïau dwyieithog hefyd. Yn eu hateb i ni mae'r Comisiwn yn mynnu fod y cyfieithu yn rhy ddrud a dyna'r union ddadl a ddefnyddir gan y sector breifat dros beidio a defnyddio'r Gymraeg"


Sut na wnaeth Dafydd El rhagweld yr ymateb yma gan y sector breifat? Roedd yn holl rhagweladwy. Mae Dafydd El wedi gwneud sawl peth dwl yn ystod ei 'yrfa' gwleidyddol, ond mae hyrwyddo hyn gyda'r gwaethaf!

http://www.walesonline.co.uk/business-i ... -24699390/

David Rosser CBI a ddywedodd:Little time has been spent on the reasons given by the Commission for its decision. These relate to the cost of translation, some £250,000 a year, and the lack of usage of the resulting document. These are precisely the objections voiced by companies when faced with the prospect of providing compulsory bilingual services to customers... Companies feel that legislation is likely to result in a prescriptive approach to the language, requiring them to adopt a blanket bilingual policy... They fear that they will end up in the same place as the Assembly Commission, spending a significant amount of money with no discernible benefit to the customer... It is a totally unsustainable position for the Assembly Government to drive through language compulsion on the private sector, or even other arms of the public and voluntary sectors, when its parent institution has questioned the effectiveness of such a blanket approach...
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Dim cyfieithu cofnod Cyfarfodydd llawn Cynulliad i'r Gymraeg

Postiogan Josgin » Sad 19 Medi 2009 9:34 pm

Oes yna rhywun o Feirionnydd yn gallu ateb hyn :
Pam ydach chi'n mynnu ethol y gwalch di-egwyddor yma i'r cynulliad ?
Seithennyn,Gwrtheyrn, Dic Sion Dafydd . Mae ei ddiffygion yn hysbys ers chwarter canrif.
Ydi o'n cael potel o win am ddim bob tro mae'n dweud rhywbeth twp ?
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Dim cyfieithu cofnod Cyfarfodydd llawn Cynulliad i'r Gymraeg

Postiogan Hogyn o Rachub » Llun 21 Medi 2009 12:06 pm

Ia wir Josgin. Mae'n hen bryd i Dafydd Êl fynd a thaswn i'n byw yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd byddwn i ddim yn pleidleisio drosto - yn wir byddwn yn ystyried yn gryf pleidleisio dros rywun arall (o bosibl iawn o ba blaid bynnag) jyst er mwyn ymwared â'r dyn. Plis, Dafydd, jyst dos.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Dim cyfieithu cofnod Cyfarfodydd llawn Cynulliad i'r Gymraeg

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 21 Medi 2009 2:50 pm

Mae gan Dafydd Elis Thomas lot o gryfderau, ond dyw derbyn ei fod yn anghywir ddim yn un ohonynt! Mae'n gwbl amlwg fod penderfyniad y Comisiwn yn yr achos yma yn mynd yn erbyn ewyllys yr Aelodau Cynulliad yn gyffredinol, ac yn waeth na dim, ei fod yn esiampl wael iawn i gyrff cyhoeddus eraill, a chwmnïau yn y sector breifat. Wedi'r cyfan, os yw'r cynulliad yn meddwl fod darparu deunydd dwyieithog yn costio gormod, a bod neb yn ei ddarllen beth bynnag, pa hawl sydd ganddyn nhw orfodi hyn ar gyrff eraill?

Un cwestiwn arall, sut ar wyneb y ddaear gall y Comisiwn honni nad oes neb yn darllen y fersiwn Gymraeg beth bynnag? O'r hyn gallaf i weld, mae'r cofnodion yn cael eu postio ar y we yn ddwyieithog ar yr un dudalen! Sut ma' nhw'n gallu dehongli felly os yw'r darllenydd yn darllen y fersiwn Cymraeg, Saesneg neu gymysgedd o'r ddau? :? Mae modd dewis rhyngwyneb Cymraeg neu Saesneg ar gyfer y dudalen, ond dyw hynny ddim yn dangos ym mha iaith mae'r testun yn cael ei ddarllen. Gellid bod wedi dod at y dudalen trwy ddolen o wefan arall, neu chwiliad mewn peiriant chwilio, ac o weld bod y testun ar y dudalen yn gwbl ddwyieithog, pam fysai unrhyw un yn pwyso ar 'Cymraeg'? E.e. dyma'r cofnod o ddydd Mawrth 14 Gorffennaf 2009:

http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/ ... &ds=7/2009
http://www.assemblywales.org/bus-home/b ... &ds=7/2009

O ran y gost, mater i'r comisiwn yw hi i ddod o hyd i'r arian. A fydde Dafydd Elis Thomas yn meiddio dadlau na ddylid talu am rampiau ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn i un rhan o adeilad y senedd, ond nid i ran arall oherwydd y gost!! Cydraddoldeb yw cydraddoldeb. Naill ai fod yna gydraddoldeb, neu does dim.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Nesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai

cron