Tudalen 2 o 2

Re: Dim cyfieithu cofnod Cyfarfodydd llawn Cynulliad i'r Gymraeg

PostioPostiwyd: Llun 21 Medi 2009 6:45 pm
gan Hedd Gwynfor
Dafydd El a'r comisiwn wedi rhoi mewn, ond dim ond yn addo gwneud y cyfieithu o fewn 10 diwrnod, nid 24 awr fel oedd gynt. Dwi ar ddeall bod rhai AC'au dal yn anhapus gyda hyn ac yn bwriadu gwneud cynnig o blaid cadw cyfieithu o fewn 24 awr.

Mwy o wybodaeth ar wefan y BBC - Cyfieithu: Ailystyried - ac ar wefan Golwg360 - Ildio i'r pwysau dros gyfieithu Cofnod y Cynulliad ac o flog Betsan Powys - No go. ac ar wefan BBC Wales -
Assembly translation row deepens

Darn difyr hefyd yn adran Sylwadau Golwg360 - Dafydd ... os wyt ti eisio trafodaeth ...

Dyma'r 3ydd tro i Dafydd El drio gwneud hyn! Reverse ferret, Matt Withers

Re: Dim cyfieithu cofnod Cyfarfodydd llawn Cynulliad i'r Gymraeg

PostioPostiwyd: Maw 22 Medi 2009 7:08 am
gan Seonaidh/Sioni
O ran diddordeb, faint o bryd sy raid gan y Comisiwn er mwyn cyfieithu pethau o'r Gymraeg i'r Saesneg?

Re: Dim cyfieithu cofnod Cyfarfodydd llawn Cynulliad i'r Gymraeg

PostioPostiwyd: Iau 24 Medi 2009 1:15 pm
gan Darth Sgonsan
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:O ran diddordeb, faint o bryd sy raid gan y Comisiwn er mwyn cyfieithu pethau o'r Gymraeg i'r Saesneg?


24 awr - mwy o frys i drosi i'r Saesneg, achos pawb yn deall Saesneg t'wel