Cafodd siop Co-op yng ngogledd Llandaf ei ail-frandio'r wythnos diwethaf. Ble fu popeth yn ddwyieithog, mae popeth yn uniaith Saesneg yn dilyn yr ail-frandio. Dim gair o Gymraeg.
Mae Sioned Haf, Trefnydd Cymdeithas yr Iaith yn y de, wedi siarad gyda rhywun o adran gwasanaethau cwsmeriaid Co-op, a ddywedodd bod y cwmni wedi edrych ar nifer siaradwyr Cymraeg yr ardal, ac wedi dod i'r canlyniad mai Saesneg yw iaith y mwyafrif, felly penderfynwyd gwneud yr arwyddion yn uniaith Saesneg.
NI'N COLLI TIR AR HYN O BRYD!
Mae'n amhosib cadw llygaid ar yr holl fusnesau yma i sicrhau eu bod yn parhau i ddarparu gwasanaethau Cymraeg, dyna pam mae rhaid cael Mesur Iaith Newydd sy'n cynnwys y sector breifat.
Mae'n Co-op wastad yn pwysleisio eu bod yn gwmni moesegol, sy'n poeni am yr amgylchedd, lles anifeiliaid, masnach deg a'r cymunedau y mae eu siopau yn gwasanaethu - http://www.co-operative.coop/food/ethics/ - pob dim ond y ymraeg mae'n ymddangos!
Mae gan Co-op llwyth o siopau trwy Gymru, mae 10 yn ardal Caerfyrddin yn unig! http://www.co-operative.coop/food/find- ... carmarthen
Danfonwch eich cwynion at adran gwasanaethau cwsmeriaid Co-op yma: customer.relations@co-op.co.uk / http://www.co-operative.coop/food/contact-us/
Mynnwch y dylai eu holl siopau yng Nghymru fod yn hollol ddwyieithog, gan fod gan Gymru 2 iaith genedlaethol. Dywedwch na fyddwch yn siopa gyda Co-op tan eu bod yn addo cynnig gwasanaethau yn y Gymraeg yn eu holl siopau yng Nghymru.