Wel, wel... mae rhai o Doris Bach Plaid Cymru eisiau creu strategaeth grand??
Mae synnwyr cyffredin yn dweud wrthym bod rhaid cael diwylliant poblogaidd Cymraeg bywiog, normal...
Normaleiddio- nid fy hoff air Cymraeg, ond dyna fo:
Normaleiddio Caneuon/Pop Ysgafn Cymraeg:
Mae yna glwb nos ym mhrif ddinas Arfon sy'n boblogaidd iawn hefo nifer o Gymry Cymraeg. Ar y maes. Yr unig dro dwi wedi clywed pop/trac Cymraeg yno ar nos Wener neu Sadwrn ydi ar ol sdop tap hefo'r goleuadau ymlaen a phawb yn gadael... Paham nad ydi'r DJs sy'n cael eu cyflogi yn chwarae mwy o dracs Cymraeg poblogaidd yn ystod y nos? Pam? Y perchennog yn poeni mwy am bres, elw, ofn pechu rhai o'r cwsmeriaid ffyddlon??
Yr hyn sy'n hollol chwerthinllyd ydi'r ffaith fod y boi yma yn gynghorydd Plaid/Party (be ffwc ydi enw'r blaid bellach)?
Gwnewch y pethau bychain. Ac yna efallai y byddai strategaeth grand a chymhleth yn llai o fynydd...
Mae rhai Nashis yn iawn, ond mae rhai (ia, rhai!) Toris Bach Plaid Cymru yn mynd ar fy nerfau.
Hedd- ti am ddileu'r caswir??