Tudalen 1 o 2

Dweud eich dweud ar strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg

PostioPostiwyd: Mer 28 Hyd 2009 1:40 pm
gan Uned Iaith LlCC
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn adolygu 'Iaith Pawb' - y strategaeth ar gyfer yr Gymraeg a gyhoeddwyd yn 2003. Rydym yn awyddus iawn i glywed eich syniadau chi ynghylch yr hyn ddylid ei gynnwys yn y strategaeth newydd.

Ewch i wefan Llywodraeth y Cynulliad am ragor o wybodaeth ynghylch y strategaeth a llenwch yr holiadur sydd yno er mwyn cyfrannu i ddatblygiad y strategaeth newydd.

Bydd y cyfle yma i ddweud eich dweud ar agor tan ddiwedd mis Ionawr 2010.

Re: Dweud eich dweud ar strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg

PostioPostiwyd: Mer 28 Hyd 2009 6:14 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Braf fyddai gweld llyfr fel y canlynol yn gweld golau dydd:
Cyfrol llawn dop o ystadegau, canrannau, graffiau, targedau...
Pa mor boblogaidd oedd yr opsiwn Cymraeg yn nhwll yn wal Hsbc yn y brif fynedfa ar faes y brifwyl eleni?? Os mai'r ateb yw llai na 50% yna mae'n siomedig...
Yr opsiwn Cymraeg ar y peiriant Hunan Wasanaeth mewn archfarchnad yng Nghaernarfon... Tra'n siopio a disgwyl mewn ciw, 'rwyf wedi sylwi y bydd rhai gangiau o bobl ifanc yn dewis yr opsiwn Cymraeg ac yna troi'r lefel sain i'r uchaswm...a gigls mawr wedyn. Gweld y peth yn ddoniol...ond y ffaith pwysig i mi ydyw eu bod wedi dewis Cymraeg...
Nifer y dyrfa ar faes y Brifwyl...graff da a manwl- y degawd diwethaf...
Lefel cylchrediad cylchgronnau Cymraeg...
Faint o CDau mae Sain wedi eu gwerthu eleni hyd yma?
Nifer gwrandawyr Radio Cymru...
Caneuon Cymraeg ar youtube- nifer yr hits
Gwefan golwg360- pa mor boblogaidd ydi'r blincin peth? Tydi ateb fel e.e. "eitha, ac mae pethau yn gwella yn raddol" jesd ddim digon da.

Fe wn yn barod fod y 'sin' Cymraeg yn un bregus iawn...ond dwisho gwybod yn union pa mor fregus...adnabod y gwendidau mewn ffordd eitha trylwyr...yna gwella mewn rhai meysydd penodol.
Tictacs!!

Llyfr mawr tew. Rhoi darlun da. Mesur cryfder y 'diwylliant' Cymraeg...

Mae arwyddion 'dwyieithog' fel Cafe/Caffi, Pizza/Pizza, Toiledau/Toilets yn uffernol o ddi-ddychymyg...
Y Ganolfan Waith yng Nghymru- os yw person eisiau gwasanaeth Cymraeg yna mae ganddo berffaith hawl. Heb os! Ond gadewch i mi ofyn faint sy'n gofyn a dewis gwasanaeth Cymraeg ar hyn o bryd?? A oes yna ormod o wastraffu pres ar gyfieithwyr ar hyn o bryd?? A ellir gwario'r pres yma mewn ffordd amgenach??
Yn olaf, mae'r Almaen a'r diwylliant yn enwog am ei Gründlichkeit...credaf y gall hyn fod yn fanteisiol i ni hefyd.
Nid dweud ydwyf fod yna sefyllfa ieithyddol berffaith yn Yr Almaen- mae yna lawer gormod o arwyddion Saesneg (ia, uniaith Saesneg fel "Sale" a.y.y.b.) yn y dinasoedd mawrion...
Son ydwyf am feddylfryd, agwedd, ffordd o feddwl... Manylder...

Re: Dweud eich dweud ar strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg

PostioPostiwyd: Llun 09 Tach 2009 5:26 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Llyfr 'Hawl i Oroesi- Ysgrifau Gwleidyddol a Diwylliannol' gan Simon Brooks. Ambell i bwynt da iawn. Fel y dywed DGJ- "...Meddyliwch yn galed."
O.N. Ond byddai cynnal y Brifwyl yn Lerpwl wedi bod yn gyfle gwych i atgoffa Lloegr a'i phobl fod y Gymraeg yn iaith fyw!

Re: Dweud eich dweud ar strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg

PostioPostiwyd: Llun 30 Tach 2009 5:36 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Brawddeg dda wrth lunio strategaeth:
Fesul gair mae adennill iaith?
Wel, wel...nid oedd/yw rhai o Doris Bach Plaid Cymru yn deall ystyr y gair papur (y siom o fethu cael papur newydd dyddiol Cymraeg).
Rhag eich cywilydd! Hedd- paid a dileu'r neges.

Re: Dweud eich dweud ar strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg

PostioPostiwyd: Llun 30 Tach 2009 9:50 pm
gan Lorn
Neges amherthnasol arall gan Mar...sori Wylit Wylit Llywelyn. Syndod :rolio:

Re: Dweud eich dweud ar strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg

PostioPostiwyd: Llun 30 Tach 2009 11:12 pm
gan Duw
Wedi "hala'n ddwy geiniog".

Re: Dweud eich dweud ar strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg

PostioPostiwyd: Mer 02 Rhag 2009 4:53 pm
gan Uned Iaith LlCC
Diolch i bawb sydd wedi ymateb hyd yma. Cofiwch fod cyfle ichi lenwi'r holiadur hyd at 29 Ionawr.

Ond hefyd bydd Alun Ffred Jones AC, y Gweinidog dros Dreftadaeth, yn cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus dros yr wythnosau nesaf er mwyn trafod yr hyn a ddylai fod yn y strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg a dyfodol y Gymraeg:

Nos yfory 3 Rhagfyr am 7 o'r gloch yn Galeri, Caernarfon
Nos Lun 14 Rhagfyr am 7 o'r gloch yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug
Nos Fawrth 15 Rhagfyr am 6.30 i ddechrau am 7 o'r gloch yn Swyddfa Llywodraeth Cynulliad Cymru, Aberystwyth
Nos Fawrth 12 Ionawr am 7 o'r gloch yn Stadiwm Swalec, Caerdydd

Rydym hefyd wrthi'n trefnu sesiwn yng Nghaerfyrddin - byddwn yn cadarnhau'r trefniadau maes o law.

Bydd pob sesiwn yn para am ddwy awr ar y mwyaf.

Bydd y cyfarfodydd hyn yn agored i bawb, ond mae lleoedd yn gyfyngedig. Os hoffech archebu lle ymlaen llaw, e-bostiwch cymraeg@cymru.gsi.gov.uk o fewn 5 niwrnod cyn y digwyddiad yr hoffech ei fynychu, gan nodi’r lleoliad. (Does dim angen i chi archebu lle ar gyfer cyfarfod nos yfory yng Nghaernarfon - trowch i fyny ar noson.)

Dewch yn llu i ddweud eich dweud!

Re: Dweud eich dweud ar strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg

PostioPostiwyd: Iau 03 Rhag 2009 11:43 pm
gan Carlos Tevez
bydd yna curries ar gyfer y cyhoedd yn y cyfarfodydd yma? beth sydd yn ddigon da i'r confensiwn.... carlos

Re: Dweud eich dweud ar strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg

PostioPostiwyd: Llun 07 Rhag 2009 4:50 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Lorn a ddywedodd:Neges amherthnasol arall gan Mar...sori Wylit Wylit Llywelyn. Syndod :rolio:

Dim o gwbl Lorn (aka Llinos Wyn... geiriau Can i Gymru, Datblygu) :winc:

Re: Dweud eich dweud ar strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg

PostioPostiwyd: Maw 15 Rhag 2009 10:13 am
gan Wylit, wylit Lywelyn
Carlos Tevez a ddywedodd:bydd yna curries ar gyfer y cyhoedd yn y cyfarfodydd yma? beth sydd yn ddigon da i'r confensiwn.... carlos

Sgowns, siocled poeth, Ferrero ffwchin Rocher...