Diolch i bawb sydd wedi ymateb hyd yma. Cofiwch fod cyfle ichi lenwi'r holiadur hyd at 29 Ionawr.
Ond hefyd bydd Alun Ffred Jones AC, y Gweinidog dros Dreftadaeth, yn cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus dros yr wythnosau nesaf er mwyn trafod yr hyn a ddylai fod yn y strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg a dyfodol y Gymraeg:
Nos yfory 3 Rhagfyr am 7 o'r gloch yn Galeri, Caernarfon
Nos Lun 14 Rhagfyr am 7 o'r gloch yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug
Nos Fawrth 15 Rhagfyr am 6.30 i ddechrau am 7 o'r gloch yn Swyddfa Llywodraeth Cynulliad Cymru, Aberystwyth
Nos Fawrth 12 Ionawr am 7 o'r gloch yn Stadiwm Swalec, Caerdydd
Rydym hefyd wrthi'n trefnu sesiwn yng Nghaerfyrddin - byddwn yn cadarnhau'r trefniadau maes o law.
Bydd pob sesiwn yn para am ddwy awr ar y mwyaf.
Bydd y cyfarfodydd hyn yn agored i bawb, ond mae lleoedd yn gyfyngedig. Os hoffech archebu lle ymlaen llaw, e-bostiwch
cymraeg@cymru.gsi.gov.uk o fewn 5 niwrnod cyn y digwyddiad yr hoffech ei fynychu, gan nodi’r lleoliad. (Does dim angen i chi archebu lle ar gyfer cyfarfod nos yfory yng Nghaernarfon - trowch i fyny ar noson.)
Dewch yn llu i ddweud eich dweud!