Y cymoedd dwi'n son amdanynt yma yw Rhondda Cynon Tâf. Mae wedi dod i glawr bod RCT yn eu doethineb wedi penderfynu cau chweched dosbarth ysgolion RCT (18 ohonynt) ac adeiladu coleg trydyddol. Yn sicr mae hwn yn ergyd farwol i'r Gymraeg. Er bod RCT yn mynnu bydd addysg dwyieithog yn parhau ol-16, rydym yn gwybod pa safon bydd ar iaith myfyrwyr unwaith iddynt adael bron yr ysgol. Pa ddylanwad a 'role-models' bydd i weddill yr ysgol wedyn?
Mae 4 o'n hysgolion, Rhydfelen/Gartholwg, Cymer, Rhydywaun a Llanhari yn gwynebu un o'r heriau mwya ers dro.
Yn anffodus, mae'r holl beth yn dod lawr i arian. Yr unig ddadl dros ffurfio coleg yw'r geiniog. Anghofiwch bopeth arall.