Diwedd Cymraeg yn y Cymoedd?

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Diwedd Cymraeg yn y Cymoedd?

Postiogan Duw » Llun 30 Tach 2009 11:22 pm

Y cymoedd dwi'n son amdanynt yma yw Rhondda Cynon Tâf. Mae wedi dod i glawr bod RCT yn eu doethineb wedi penderfynu cau chweched dosbarth ysgolion RCT (18 ohonynt) ac adeiladu coleg trydyddol. Yn sicr mae hwn yn ergyd farwol i'r Gymraeg. Er bod RCT yn mynnu bydd addysg dwyieithog yn parhau ol-16, rydym yn gwybod pa safon bydd ar iaith myfyrwyr unwaith iddynt adael bron yr ysgol. Pa ddylanwad a 'role-models' bydd i weddill yr ysgol wedyn?

Mae 4 o'n hysgolion, Rhydfelen/Gartholwg, Cymer, Rhydywaun a Llanhari yn gwynebu un o'r heriau mwya ers dro.

Yn anffodus, mae'r holl beth yn dod lawr i arian. Yr unig ddadl dros ffurfio coleg yw'r geiniog. Anghofiwch bopeth arall. :(
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Diwedd Cymraeg yn y Cymoedd?

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 01 Rhag 2009 7:41 pm

Pam nad oes modd creu coleg llai o faint Cymraeg ar gyfer yr ysgolion rwyt ti'n rhestru os mai arbed arian yw'r nod? Neu hyd yn oed cadw'r 6ed dosbarth ar agor yn un o'r ysgolion Cymraeg yn unig, gyda plant 16+ o bob un o'r ysgolion Cymraeg yn mynd yno? Neu, gwell byth, cynnig rhai pynciau 6ed dosbarth yn unig ar safleoedd y gwahanol ysgolion Cymraeg, a chydweithio'n agos (trwy fideo, disgyblion yn mynd o un safle i'r llall, staff yn mynd o un safle i'r llall ayb) fel bod modd cynnig ystod mor eang a phosib o bynciau trwy gyfrwng y Gymraeg, mewn awyrgylch Cymraeg mewn sefydliad gyda ethos Cymraeg?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Diwedd Cymraeg yn y Cymoedd?

Postiogan dewi_o » Mer 02 Rhag 2009 6:41 am

Does dim sicrwydd bydd yr Ysgolion Gyfun Gymraeg yn rhan o'r fenter eto. Mi fydd yn frwydr i gadw addysg 16-18 o fewn yr ysgolion ond mae 3 o'r ysgolion yn rhai fawr sy'n cynig dewis dda i ddisgyblion 16+.
Gwyn fyd cefnogwyr pel droed Wrecsam a Chymru:
Gwyn eu byd y rhai sy'n disgwyl dim, ni chant eu siomi.
Rhithffurf defnyddiwr
dewi_o
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 213
Ymunwyd: Sul 13 Mai 2007 9:52 am
Lleoliad: Caerffili

Re: Diwedd Cymraeg yn y Cymoedd?

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 02 Rhag 2009 7:14 pm

Y broblem yw fod llawer o ddisgyblion Ysgol yn hoffi'r syniad o fynd i 'Goleg' gan fod lot mwy o ryddid, a ma nhw'n fyfyrwyr wedyn a nid disgyblion! Os na fydd Coleg 6ed dosbarth Cymraeg, efallai bydd lot o fyfyrwyr yn cael eu colli i'r Coleg 6ed dosbarth Saesneg? Rhaid cadw hyn mewn ystyriaeth. Rhaid bod digon o ddisgyblion sy'n cael addysg Gymraeg yn RCT + siroedd cyfagos i fedru creu Coleg 6ed dosbarth Cymraeg ar y cyd??
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Diwedd Cymraeg yn y Cymoedd?

Postiogan dewi_o » Mer 02 Rhag 2009 7:51 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Y broblem yw fod llawer o ddisgyblion Ysgol yn hoffi'r syniad o fynd i 'Goleg' gan fod lot mwy o ryddid, a ma nhw'n fyfyrwyr wedyn a nid disgyblion! Os na fydd Coleg 6ed dosbarth Cymraeg, efallai bydd lot o fyfyrwyr yn cael eu colli i'r Coleg 6ed dosbarth Saesneg? Rhaid cadw hyn mewn ystyriaeth. Rhaid bod digon o ddisgyblion sy'n cael addysg Gymraeg yn RCT + siroedd cyfagos i fedru creu Coleg 6ed dosbarth Cymraeg ar y cyd??


Dwi ddim yn erbyn creu Coleg 6ed Dosbarth Gymraeg ac yn sicr os fydd colegau saesneg ei iaith i ddisgyblion 16+ yn dechrau mae'n rhaid cael rhai Cymraeg. Ond dwi'n rhagweld problemau e.e. lleoliad canolog, cost, teithio, cefnogaeth a brwdfrydedd yr awdurdodau lleol ar draws y cymoedd (Llafur a Plaid).
Gwyn fyd cefnogwyr pel droed Wrecsam a Chymru:
Gwyn eu byd y rhai sy'n disgwyl dim, ni chant eu siomi.
Rhithffurf defnyddiwr
dewi_o
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 213
Ymunwyd: Sul 13 Mai 2007 9:52 am
Lleoliad: Caerffili

Re: Diwedd Cymraeg yn y Cymoedd?

Postiogan Josgin » Iau 03 Rhag 2009 7:26 pm

Ni chredaf i Goleg Menai gynnal Cymreictod Gwynedd yn yr un modd a fusaem ni yn yr ysgolion wedi gwneud.
Pa obaith sydd gan goleg trydyddol yn y cymoedd ?
Mae'n ddigon o frwydr fel y mae ?
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Diwedd Cymraeg yn y Cymoedd?

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 03 Rhag 2009 7:45 pm

Josgin a ddywedodd:Ni chredaf i Goleg Menai gynnal Cymreictod Gwynedd yn yr un modd a fusaem ni yn yr ysgolion wedi gwneud.
Pa obaith sydd gan goleg trydyddol yn y cymoedd ?
Mae'n ddigon o frwydr fel y mae ?


Ond nid Coleg 6ed dosbarth 'Cymraeg' yw Coleg Menai. Sôn am sefydlu Coleg 6ed dosbarth penodol Cymraeg oeddwn i, yn cynnig yr holl bynciau trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig, nid coleg dwyieithog.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Diwedd Cymraeg yn y Cymoedd?

Postiogan Josgin » Iau 03 Rhag 2009 9:18 pm

Y pwynt yr ydw i yn gwneud yw fod 'Coleg' , boed yn un Cymraeg neu peidio, yn mynd i fethu dylanwadu'n ffafriol ar Gymreictod disgyblion.
Pan yr oeddwn i'n dysgu mewn ysgol benodedig Gymraeg , yr oedd canran helaeth o'n myfyrwyr 6ed dosbarth yn gwrthod siarad Cymraeg .
Credaf fod hyn , yn dilyn agenda 14-19 y cynulliad , yn mynd i wneud drwg go fawr i addysg Gymraeg , ac yn sydyn iawn .
Josgin
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 360
Ymunwyd: Sad 17 Chw 2007 11:21 pm
Lleoliad: Gogledd pell

Re: Diwedd Cymraeg yn y Cymoedd?

Postiogan Duw » Iau 03 Rhag 2009 10:55 pm

O ran creu 6ed dosbarth ar y cyd neu rhannu pethau allan rhwng ysgolion Cymraeg:

Mae'r ail opsiwn wedi'i drio eisoes, ond os ydyw yn mynd i weithio, mae angen bysio myfyrwyr o ysgol i ysgol ar gyfer y pwnc hwn ac yna'r pwnc hwnnw. Bydd y gost yn echrydus - gan gynnwys y gost ar y myfyrwyr eu hunain a fydd yn gorfod gwario oriau ac oriau yr wythnos yn teithio.

Dwi ddim yn gweld yr opsiwn cyntaf yn opsiwn o gwbl. Un agwedd bwysig iawn yw'r gwerth mae 6ed dosbarth yn rhoi i ysgol a hefyd yr hyn mae myfyrwyr yn elwa wrth fod yn aelodau ysgol a phrofiadau sy'n deillio o hynny (swogs ac ati). Mae llawer o sgiliau bywyd ond yn gallu'u meithrin o fewn cyd-destun delio â phlant ifanc - defnyddiol ar gyfer UCAS/Sgiliau Allweddol/portffolio Bag ac ati.

Os ddaw hwn i realiti, cawn weld diwedd ar yr iaith Gymraeg o fewn cymynedau 6ed dosbarth, hyd yn oed tu fewn coleg CYmraeg ei chyfrwng. Pa mor efengylaidd a fydd tiwtoriaid y sefydliad i fynnu ar y Gymraeg fel rheol?
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Diwedd Cymraeg yn y Cymoedd?

Postiogan garynysmon » Iau 03 Rhag 2009 11:57 pm

Josgin a ddywedodd:Ni chredaf i Goleg Menai gynnal Cymreictod Gwynedd yn yr un modd a fusaem ni yn yr ysgolion wedi gwneud.
Pa obaith sydd gan goleg trydyddol yn y cymoedd ?
Mae'n ddigon o frwydr fel y mae ?


Ti'n llygad dy le. Wnesh i'r camgymeriad enfawr o fynd i'r 'Tech'n yn lle y 6ed Dosbarth. Mae rhaid cofio mai ychydig iawn o gysylltiad efo plant o ardaloedd Di-Gymraeg oedd gynnon ni gyd cyn gadael Ysgol Bodedern, ac yn amlwg, lot o hogia o ardal Bangor oedd yn mynychu.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon


Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai