Erthygl o'r Carchar gan Osian Jones yn y Western Mail

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Erthygl o'r Carchar gan Osian Jones yn y Western Mail

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 03 Rhag 2009 3:21 pm

Why am I in a cell, instead of the retail giants and bankers?
http://www.walesonline.co.uk/news/wales ... -25310176/

Byddai'n help mawr os gallwch chi gyfrannu sylwadau ar waelod yr erthygl.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Erthygl o'r Carchar gan Osian Jones yn y Western Mail

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 03 Rhag 2009 5:21 pm

Gellir gweld yrcopi o'r erthygl yn cynnwys y llun hyfryd :winc: yma: http://cymdeithas.org/2009/12/03/erthyg ... _mail.html
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Llythyr Osian o'r carchar

Postiogan HuwJones » Iau 03 Rhag 2009 9:24 pm

Ges i lythyr gan Osian heddiw.. wedi ffrancio 1 Rhagfyr. Mae o'n gofyn iddo gael ei ddanfon mewn e-bost rownd pawb

- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -

"Dim ond gair byr i ddiolch am yr holl gefnogaeth yn ystod y misoedd diwethaf ac am y gwaith di-flino gyda'r achos.

Diolch o galon

Mae'n 'grim' yma. Mae'r bwyd yn uffernol - tatws, moron, lunchon meat a greifi pob dydd, dwi'n dechrau colli pwysau'n barod. Dwi'n cael fy nghloi yn fy nghell am 4 pob dydd, tydi hynny ddim yn ddrwg ond am y ffaith bod yr awdurdodau yma wedi gwrthod imi fynd i'r llyfrgell ar ddau achlysur "swyddogol" am ddim rheswm - mi ddudodd un screw fel esboniad "where do you think you are the Hilton" *

Mae'r carcharorion eraill yn fois iawn-ish, ti'n gwybod yn syth i biedio camu allan o lein neu mi fasa ti'n fwcd..

Mae'n dueddol o 'gicio-off' yma pob dydd rhyw ben, efo'r sgowsars yn ceisio ennill goruchafiaeth ar grwpiau eraill o Fanceinion neu Leeds a.y.b. Mae rhywun yn dueddol ar adegau fel hynny i lyncu poer a diolch i dduw bod chi ddim yn cymysgu efo bois felly. **

Mi fyddai allan dydd Mawrth 8fed Rhagfyr .. peint yn y dafarn gyntaf dwi'n gweld ym Mangor dwi'n meddwl

Yn gyffredinol mae pob bob dim yn iawn, dwi'n cadw fy ysbryd wrth ail-ddarllen llythyrau dwi wedi dderbyn... ac edrych ar rhai o'r hogiau sydd yma am 12 mlynedd wrth feddwl "waw, oleia mai dim ond wythnos arall sydd gen i"

Tydi "Group 4" (y cwmni preifat sy'n rhedeg carchar Altcourse) ddim yn poeni rhyw lawr am y carcharorion, ond ar ddiwedd y dydd be ti'n disgwyl wrth gwmni preifat sy'n poeni mwy am elw na phobl.

Cymunedau Rhydd nid Farchnad Rydd
Osian

- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -

Daler Sylw:
* Mae CyIG wedi gwneud cryn ymdrech i anfon llyfrau a phapurau ato trwy'r "system gywir".. mae'r carchar wedi cael ei ffonio sawl tro i sicrhau bod y deunydd darllen yn ei gyrraedd mor fuan â phosibl
** Mae Osh wedi dweud wrth ei ymwelwyr ei fod yn rhannu cell efo "hen foi iawn"


Mae Osian yn cael ei rhyddhau ar DDYDD MAWRTH 8 RHAGFYR,
ac yn cyrraedd GORSAF DRENAU BANGOR am 1pm
DOWCH DRAW I DDANGOS DY GEFNOGAETH I OSIAN !!!
HuwJones
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 196
Ymunwyd: Gwe 23 Maw 2007 2:39 pm
Lleoliad: Ynys Môn


Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron