Keeping communities is the key to Welsh language’s survival
Menna Machreth - walesonline.co.uk
The Welsh language is under more threat than ever
Barry Taylor - waleshome.org
Cymedrolwr: gronw
Duw a ddywedodd:Jest yn mynd i ddangos beth ma pawb yn gwbod yn barod - cynnydd mewn siaradwyr, gostyngiad mewn cymunedau gyda'r mwyafrif yn siarad Cymraeg. Trist, ond eto i gyd - pwy sy ar fai? Ni - stim pwynt rhoi'r bai i gyd ar fewnfudwyr, er eu bod yn chwarae'u rhan. Cymry Cymraeg - rhai yn symud allan (brain drain); ddim yn siarad Cymraeg â'i gilydd; ddim yn siarad Cymraeg â'u plant; hala'u plant i ysgolion Saesneg; ddim yn mynnu ar adnoddau Cymraeg; ddim yn gwenud defnydd o adnoddau Cymraeg ...ac yn y blaen. Yn fy marn i, mae agwedd Cymry Di-Gymraeg wedi newid yn syfrdannol (o blaid yr iaith) dros y ddegawd neu ddwy diwethaf, lle mae siaradwyr Cymraeg yn ein cymunedau traddodiadol wedi mynd yn fwy apathetig. Mae'n rhaid dweud nid yw hwn yn wir am bob un wrth gwrs, ond dyna'r tuedd a welwn.
stim pwynt rhoi'r bai i gyd ar fewnfudwyr, er eu bod yn chwarae'u rhan
Yma yn yr Alban, mae efallai 1% o'r boblogaeth yn gyfarwydd a'r Aeleg. Ar un adeg, bu ganolbwyntio o siaradwyr yr Aeleg mewn lleoedd fel yr Ynysoedd Heledd, Sgei ac ati ac, er mai bychan y canrifoedd, bu gymunedau Gaeleg digon diogel. Ond heddiw, gyda "fuadaichean" economaidd (ifeinc yn symud i ffwrdd i weithio ac ati) a chrachach cyfoethog yn symud i mewn, (a) mae pob cymuned Aeleg dan fygwth ofnadwy a (b) mae bron hanner o siaradwyr yr Aeleg yn byw mewn ardaloedd hollol Saesneg eu hiaith. Anodd mae gwybod beth i'w wneud amdani.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai