Mesur iaith newydd

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Mesur iaith newydd

Postiogan Madrwyddygryf » Gwe 05 Maw 2010 6:31 pm

Dwi wedi cael cipolwg ar y mesur newydd ynglyn a'r iaith.

I fod yn hollol gonest, dwi eitha amheus am beth mae'n galw. Yn arbennig am yr angen o fewn y sector breifat, dwi jesd ddim yn gweld sut bydd y commisiynydd yn gallu sicrhau bod rhai adrannau o sector breifat. Mi fedrai gweld nhw yn talu y dirwy ac anwybyddu'r ddeddf.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Mesur iaith newydd

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 05 Maw 2010 7:00 pm

Mae'r Mesur arfaethedig yn wan uffernol, lot mwy gwan nad oedd yr ymgyrchydd iaith mwyaf sinigaidd yn ei ddisgwyl!

1, Does dim datganiad clir diamheuol bod y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru, er bod hyn yn addewid Cymru'n Un.
2, Does dim son o gwbl am hawliau ieithyddol yn y ddogfen, er bod hyn yn addewid Cymru'n Un. (dwi wedi gwneud 'chwiliad' trwy'r PDF a dyw'r gair 'hawliau' ddim wedi ei gynnwys o gwbl!
3, Mae'n ymddangos na fydd y Comisiynydd iaith yn annibynnol, o ystyried mai'r Prif Weinidog fydd yn gwneud y penodiad.

Sgor? 0.5 allan o 3!

Mae Plaid Cymru a Llafur wedi bradychu pobl Cymru.

Mesur Arfaethedig y Gymraeg (Cymru) - PDF
Memorandwm Esboniadol - PDF
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Mesur iaith newydd

Postiogan Angharad Clwyd » Sad 13 Maw 2010 8:23 am

Odych chi wedi gweld deiseb y GYmdeithas mewn ymateb i'r Mesur Iaith: http://deiseb.cymdeithas.org/

Y geiriad yw:

Arwydda’r ddeiseb isod a fydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth y Cynulliad.
Cadwch at eich gair! Rhowch i ni’r hawl i ddefnyddio’r Gymraeg!

Yr ydym ni sydd wedi arwyddo isod yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ailystyried cynnwys ei mesur iaith arfaethedig, a chadw at ei haddewid i sefydlu hawliau i bobl Cymru fedru gweld, clywed a defnyddio’r Gymraeg, gwneud y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru, a phenodi Comisiynydd Iaith annibynnol.

Yn nogfen ‘Cymru’n Un’ (2007), addawodd y ddwy blaid lywodraethol — Llafur a Phlaid Cymru — y byddant yn cadarnhau statws swyddogol y Gymraeg a sefydlu “hawliau ieithyddol” i gael gwasanaethau yn Gymraeg.

Mae Llywodraeth Cymru newydd gyhoeddi manylion drafft ei mesur ar yr iaith Gymraeg, ond nid yw’r mesur yn gwneud y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru na sefydlu hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg, ac felly ni fydd yn galluogi pobl Cymru i fyw eu bywydau yn Gymraeg os dyna eu dymuniad nhw.

Dylid sefydlu Comisiynydd Iaith wirioneddol annibynnol, gyda’r Cynulliad cyfan yn cael pleidleisio ar y penodiad, i sicrhau ei fod yn atebol i bobl Cymru, yn hytrach na llywodraeth y dydd o ba bynnag liw.
Rhithffurf defnyddiwr
Angharad Clwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 125
Ymunwyd: Maw 25 Mai 2004 8:35 am
Lleoliad: Llandysul

Re: Mesur iaith newydd

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sul 14 Maw 2010 6:50 pm

Oddi wrth http://www.scotland.gov.uk/Topics/ArtsCultureSport/arts/gaelic/gaelic-english/17910/Gaelic-language-plan:-
The Gaelic Language (Scotland) Act 2005 was passed by the Scottish Parliament with a view to securing the status of the Gaelic language as an official language of Scotland commanding equal respect to the English language.

Felly, 2005 => Gaeleg yn iaith swyddogol yr Alban (yn ogystal a Saesneg). Be di'r broblem efo gwneud yr un peth efo'r Gymraeg yng Nghymru?
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha


Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron