Deiseb - Cadwch at eich gair! Rhowch i ni’r hawl i ddefnyddi

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Deiseb - Cadwch at eich gair! Rhowch i ni’r hawl i ddefnyddi

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 13 Maw 2010 4:48 pm

Arwydda’r ddeiseb isod a fydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth y Cynulliad. - http://deiseb.cymdeithas.org/

cymdeithas.org a ddywedodd:Cadwch at eich gair! Rhowch i ni’r hawl i ddefnyddio’r Gymraeg!

Yr ydym ni sydd wedi arwyddo isod yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ailystyried cynnwys ei mesur iaith arfaethedig, a chadw at ei haddewid i sefydlu hawliau i bobl Cymru fedru gweld, clywed a defnyddio’r Gymraeg, gwneud y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru, a phenodi Comisiynydd Iaith annibynnol.

Yn nogfen ‘Cymru’n Un’ (2007), addawodd y ddwy blaid lywodraethol — Llafur a Phlaid Cymru — y byddant yn cadarnhau statws swyddogol y Gymraeg a sefydlu “hawliau ieithyddol” i gael gwasanaethau yn Gymraeg.

Mae Llywodraeth Cymru newydd gyhoeddi manylion drafft ei mesur ar yr iaith Gymraeg, ond nid yw’r mesur yn gwneud y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru na sefydlu hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg, ac felly ni fydd yn galluogi pobl Cymru i fyw eu bywydau yn Gymraeg os dyna eu dymuniad nhw.

Dylid sefydlu Comisiynydd Iaith wirioneddol annibynnol, gyda’r Cynulliad cyfan yn cael pleidleisio ar y penodiad, i sicrhau ei fod yn atebol i bobl Cymru, yn hytrach na llywodraeth y dydd o ba bynnag liw.

http://deiseb.cymdeithas.org/
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron