Sai'n gwbod am wneud sens i ddysgu ieithoedd cryfach, chwaith. Ma fe'n gwneud rhyw bwynt am allu siarad Saesneg gyda biliwn o bobl, a dim ond yn gallu siarad gyda 10 000 (?) yn y Geilig. Eto i gyda, pwy sydd a'r a,ser i sirada gyda biliwn o bobl? Neu hyd yn oed gyda 10 000?
O ddilyn trywydd y "dysgu ieithoedd 'cryfach', beth yw pwynt dysgu Cymraeg yn lle Ffrangeg? Neu'r Iseldireg yn lle'r Sbaeneg? Neu'r Saesneg yn lle'r Mandarin?
Beth hoffen i wbod yw, pam ma DM wedi bratu hanner awr o'i amser yn creu fideo yn lladd ar y geilig a'i chymorth? Gas e 'i dalu? Gan bwy? Neu ai rhyw obsesiwn personol yw e? Does bosib bod pethau amgenach i'w cefnogi / gwrthwynebu?