Rwy'n gyfrifol am rhedeg prosiectau er mwyn hybu'r Gymraeg yn yr ysgol, i geisio cael y disgyblion i fod yn fwy parod a mwy hyderus i ddefnyddio'r Gymraeg.
Hyd yn hyn rwyf wedi cychwyn radio ysgol sy'n darlledu i'r Ffreutur yn ystod yr awr ginio gyda disgyblion y 6ed yn DJo. Mae'r radio, wrth reswm, yn chwarae detholiad go sylweddol o ganeuon Cymraeg, ac mae'r llyfrgell cerddoriaeth yn tyfu'n gyson.
Rwyf hefyd wedi cychwyn gwefan ar gyfer y disgyblion, lle mae cyfle iddyn nhw i ddanfon ceisiau i mewn, ac yn ddamcaniaethol medru danfon lluniau i mewn (buddsoddwyd mewn ffon symudol er mwyn gwneud hyn yn haws).
Y bwriad y flowyddyn nesaf yw parhau a'r ddau prosiect yma ond datblygu pethau ymhellach er mwyn fod cyfle i bob disgybl i gymryd rhan mewn clybiau amser cinio. Pethau fel Clwb Cemeg - cyfle i greu bomiau mwg, adweithiau cyffrous, tannau lliw ayyb. Clwb Ffiseg - cyfle i adeiladu cylchedau mwy cyffrous na'r rhai a geir yn y cwrs e.e. cylched creu radio ayyb. Clwb Hanes - cyfle i adeiladu model o gastell dros gyfnod. Clwb Creu Ffilm - sgriptio ac yna ffilmio ffilm fer. Clwb Gwyddbwyll. Clwb Coginio. Clwb Daearyddiaeth Mynd am drip byr a defnyddio sgiliau darllen map i ddarganfod "trysor" wythnosol. ayyb.
Oes gan unrhyw un syniadau arall o rhywbeth gallai wneud er mwyn ceisio hybu'r iaith? Mae cyflwyniad gyda fi ddydd Mawrth, felly cyn gynted a phosib os fedrwch (sori am y byr rybudd, ond dim heddi nes i glywed am y cyflwyniad).
Diolchaf,
Ceri