Hybu Cymraeg i ddisgyblion ysgol

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Hybu Cymraeg i ddisgyblion ysgol

Postiogan ceribethlem » Gwe 09 Gor 2010 3:43 pm

Rwy'n gyfrifol am rhedeg prosiectau er mwyn hybu'r Gymraeg yn yr ysgol, i geisio cael y disgyblion i fod yn fwy parod a mwy hyderus i ddefnyddio'r Gymraeg.

Hyd yn hyn rwyf wedi cychwyn radio ysgol sy'n darlledu i'r Ffreutur yn ystod yr awr ginio gyda disgyblion y 6ed yn DJo. Mae'r radio, wrth reswm, yn chwarae detholiad go sylweddol o ganeuon Cymraeg, ac mae'r llyfrgell cerddoriaeth yn tyfu'n gyson.
Rwyf hefyd wedi cychwyn gwefan ar gyfer y disgyblion, lle mae cyfle iddyn nhw i ddanfon ceisiau i mewn, ac yn ddamcaniaethol medru danfon lluniau i mewn (buddsoddwyd mewn ffon symudol er mwyn gwneud hyn yn haws).

Y bwriad y flowyddyn nesaf yw parhau a'r ddau prosiect yma ond datblygu pethau ymhellach er mwyn fod cyfle i bob disgybl i gymryd rhan mewn clybiau amser cinio. Pethau fel Clwb Cemeg - cyfle i greu bomiau mwg, adweithiau cyffrous, tannau lliw ayyb. Clwb Ffiseg - cyfle i adeiladu cylchedau mwy cyffrous na'r rhai a geir yn y cwrs e.e. cylched creu radio ayyb. Clwb Hanes - cyfle i adeiladu model o gastell dros gyfnod. Clwb Creu Ffilm - sgriptio ac yna ffilmio ffilm fer. Clwb Gwyddbwyll. Clwb Coginio. Clwb Daearyddiaeth Mynd am drip byr a defnyddio sgiliau darllen map i ddarganfod "trysor" wythnosol. ayyb.

Oes gan unrhyw un syniadau arall o rhywbeth gallai wneud er mwyn ceisio hybu'r iaith? Mae cyflwyniad gyda fi ddydd Mawrth, felly cyn gynted a phosib os fedrwch (sori am y byr rybudd, ond dim heddi nes i glywed am y cyflwyniad).

Diolchaf,
Ceri
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Hybu Cymraeg i ddisgyblion ysgol

Postiogan Duw » Gwe 09 Gor 2010 8:28 pm

Swnio'n gret Ceri - cal cipolwg ar be sta fi yma:

cemeg.wetwork.org.uk - dwi'n bwriadu cynnal gwersi byw arlein trwy ddarlledu fideo

cymercem.blogspot.com - dyma clwb gwyddoniaeth - fideos ar y pyst cynnar


Gallet osod podlediadau sioeau (jest bo ti'n tynnu'r cerddoriaeth i ffwrdd [hawlfraint]).

Dwi wedi gweithio ar fan brosiectau eraill - rho showt os allai helpu.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco


Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron