Ers dwi'n ymwybodol o weithredoedd Cymdeithas yr Iaith, pwyso ar y llywodraeth i ddeddfu ar ran y sector breifat maent wedi ei wneud. Dwi ddim cweit yn cytuno efo'r bwriad yma. E.g. Ti'n gorfodi busnes â neb yn siarad Cymraeg i godi arwyddion dwyieithog, wedyn ceisio derbyn gwasanaeth gan y busnes gan ddefnyddio'i llenyddiaeth Cymraeg, a neb o'r staff yn deall am be chi'n ei ofyn! etc.
Ta waeth, dwi yn cytuno efo Cymdeithas yr Iaith i bwyso ar y llywodraeth i ddeddfu ar y llywodraeth! I.e. cofnod y Cynulliad na fydd ar gael yn ddwyieithog bellach, a dim ond yn y Saesneg. A yw hyn am ddigwydd heb rwgnach? Arwyddion ar hyd a lled Cymru unai dal yn uniaith Saesneg, neu wedi'i camsillafu - tydi geiriau a gamsillafir ddim yn eiriau adnabyddus, ac o ganlyniad ddim yn Gymraeg!
Yr unig ddull o brotestio dwi di gweld yw lobio sywddogol gyda phensil a phapur, neu graffiti yn gyhoeddus dim ond er mwyn mynd ger bron llys. Dwi wostad di meddwl byse hi'n well bod yn fwy o niwsans mewn dull o guerrilla warfare. Ymosod wedyn diflannu, gan adael llanast. Mynd ati i roi sdicer a ffenest lolfa tŷ cynghorydd, bob nos am flwyddyn am tua 4am y bore. Dwi'n meddwl gwneith hi/fo gael y neges yn y pendraw. Yn lle sgwennu 'dedd iaith' neu 'cymraeg' ar arwydd ffordd, sgwennwch 'cunt' neu 'fuck' ac yn lle cael arolygydd y cyngor i fynd o gwmpas yn trefnu beth sydd i'w adnewyddu, bydd llif o alwadau gan rieni yn haslo'r cyngor!