Ffocws Cymdeithas yr Iaith

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ffocws Cymdeithas yr Iaith

Postiogan huwwaters » Gwe 16 Gor 2010 7:15 pm

Ers dwi'n ymwybodol o weithredoedd Cymdeithas yr Iaith, pwyso ar y llywodraeth i ddeddfu ar ran y sector breifat maent wedi ei wneud. Dwi ddim cweit yn cytuno efo'r bwriad yma. E.g. Ti'n gorfodi busnes â neb yn siarad Cymraeg i godi arwyddion dwyieithog, wedyn ceisio derbyn gwasanaeth gan y busnes gan ddefnyddio'i llenyddiaeth Cymraeg, a neb o'r staff yn deall am be chi'n ei ofyn! etc.

Ta waeth, dwi yn cytuno efo Cymdeithas yr Iaith i bwyso ar y llywodraeth i ddeddfu ar y llywodraeth! I.e. cofnod y Cynulliad na fydd ar gael yn ddwyieithog bellach, a dim ond yn y Saesneg. A yw hyn am ddigwydd heb rwgnach? Arwyddion ar hyd a lled Cymru unai dal yn uniaith Saesneg, neu wedi'i camsillafu - tydi geiriau a gamsillafir ddim yn eiriau adnabyddus, ac o ganlyniad ddim yn Gymraeg!

Yr unig ddull o brotestio dwi di gweld yw lobio sywddogol gyda phensil a phapur, neu graffiti yn gyhoeddus dim ond er mwyn mynd ger bron llys. Dwi wostad di meddwl byse hi'n well bod yn fwy o niwsans mewn dull o guerrilla warfare. Ymosod wedyn diflannu, gan adael llanast. Mynd ati i roi sdicer a ffenest lolfa tŷ cynghorydd, bob nos am flwyddyn am tua 4am y bore. Dwi'n meddwl gwneith hi/fo gael y neges yn y pendraw. Yn lle sgwennu 'dedd iaith' neu 'cymraeg' ar arwydd ffordd, sgwennwch 'cunt' neu 'fuck' ac yn lle cael arolygydd y cyngor i fynd o gwmpas yn trefnu beth sydd i'w adnewyddu, bydd llif o alwadau gan rieni yn haslo'r cyngor!
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Ffocws Cymdeithas yr Iaith

Postiogan adamjones416 » Sad 17 Gor 2010 8:26 am

Er fy mod i'n cytuno a ti i raddau gyda'r angen i bwyso'n fwy yn hytrach na geiriau gwag a phensil a phapur, baswn i ddim yn mynd lawr yr un trywydd yna, byddai'n troi pobl yn erbyn Cymdeithas yr Iaith a phobl yn erbyn y Gymraeg ac mae hynny'n damweiniol iawn, gyda'r tir rydym wedi ennill yn y ffaith bod pobl yn ddigon parod i dderbyn ag integreiddio'r iaith mae angen nawr pwysleisio pa mor annatod yw'r iaith i hunaniaeth Gymru, mae angen pwysleisio pa mor anfanteisiol ydy Siarad un iaith yn ein gwlad ni bellach, bydd hyn y gyd yn cynyddu'r pobl sydd yn dysgu ac yn defnyddio'r iaith ac yna basai'r gwasanaethau Cymraeg yn dilyn heb os.
Citsh yn y goc yw pegi, wp hi mewn yn stêdi, tynn hi fas ar ôl gal flas a walle gei di fabi
adamjones416
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 42
Ymunwyd: Sul 03 Medi 2006 3:30 pm
Lleoliad: Glanaman


Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron