Llywodraeth Tori-Rhydd Llundain i dorri cyllideb S4C o 25%

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Llywodraeth Tori-Rhydd Llundain i dorri cyllideb S4C o 25%

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 23 Gor 2010 1:42 pm

Mae'n hollol amlwg erbyn hyn nad oes modd ymddiried yn y Llywodraeth Geidwadol/Rhyddfrydol yn San Steffan i ddiogelu ein unig sianel deledu Cymraeg. Mae'n hen bryd datganoli grymoedd darlledu (a'r arian!) yn llawn o San Steffan i Gymru.

http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_8 ... 848330.stm
http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-10739166
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Llywodraeth Tori-Rhydd Llundain i dorri cyllideb S4C o 2

Postiogan adamjones416 » Gwe 23 Gor 2010 2:45 pm

Mae'r holl beth yn warthus tu hwnt ac yn dangos agwedd gwrthgymerig y toriaid tuag at Gymru? Pam ddiawl ma pobl Cymru yn pleidleisio drostynt wn i ddim :/?

Ond eto dwi yn cydnabod bod yna ddiffygion yn S4C ar hyn o bryd, mae eisie mwy o frwdfrydedd a mwy o reloaeth bendant a sicr. Er enghraifft gwastraffu S4C/dau? Pam nad ydynt yn gosod holl rhaglenni i blant arno tan tua 7 o'r cloch yr hwyr felly'n ateb gofynion plant bach a phlant hyn/arddegwyr, ac yna gosod rhaglenni pennodol i ddysgwyr er mwyn iddynt ddod yn wylwyr cyson o S4C?. Wedyn ar S4C ei hun cael rhaglenni boreol megis fersiwn Gymraeg o Gmtv math o beth a rhaglenni coginio a phethau ty ayyb? Does dim rheolaeth, gormod o ailddarlledu, Er enghraifft roeddwn i'n dwli ar Con Passionate, Tipyn o Stad, Amdani ayyb roedd nifer fawr yn ei gwylio nhw? Ble ma nhw nawr?

Rownd a rownd? Pam na allent wneud hynny'n opera sebon go iawn i bobl ifanc arno o hyd? Achos mae nifer fawr eto'n ei wylio?

Un peth arall yn ol bob son cafodd Ifan a Shan Coffi deunaw mil yr un i wneud rhaglen y Porthmon? Ydy hynny'n dderbyniol? Wyddwn i ddim!. Eisie newid oes ond dim torri'r gyllideb.
Citsh yn y goc yw pegi, wp hi mewn yn stêdi, tynn hi fas ar ôl gal flas a walle gei di fabi
adamjones416
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 42
Ymunwyd: Sul 03 Medi 2006 3:30 pm
Lleoliad: Glanaman

Re: Llywodraeth Tori-Rhydd Llundain i dorri cyllideb S4C o 2

Postiogan Duw » Gwe 23 Gor 2010 4:05 pm

Dwi heb wylio S4C ers blynydde heb law i edrych ar ambell gêm rygbi. Bradwr? Wylle. Teimlo'n euog? Na. 'Stim ar y peth sy'n tynnu fy niddordeb. Dwi ddim yn gwylio lot o'r bocs beth bynnag, ond dwi'n gwirio yr hyn sy 'mlaen.

Heno:

19:30 Newyddion 888
20:00 Pobol y Cwm 888 / 889
20:25 Sioe'r Tŷ 888 / 889
20:55 Y Tywydd 888
21:00 Proms Cymru 25 888
22:00 Shân Cothi 888 / 889
22:30 Penawdau Newyddion 888
22:35 Fferm Ffactor 888 / 889
23:05 Gofod 888
23:40 Y Tywydd

Dim byd fynna sori. Rhywbeth i blesio rhai wylle.
Beth am dalu cwmnie cynhyrchu ar sail nifer y gwylwyr? Wylle wedyn bydd taliadau llawer mwy rhesymol. Dwi'm gwbod sut mae'n gweithio, ond mae costiau echrydus i gymharu â'r hyn sy'n cael ei gynnig.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: Llywodraeth Tori-Rhydd Llundain i dorri cyllideb S4C o 2

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 23 Gor 2010 5:32 pm

Fi'n cytuno gyda lot ti'n dweud Duw. Dyw'r mwyafrif o raglenni ddim yn apelio ataf i chwaeth! Mae'n anodd wrth gwrs gyda un sianel Gymraeg yn unig, sut mae modd apelio at bawb sy'n siarad Cymraeg? Tasg anodd, os nad amhosib, ond gallai S4C wneud yn well yn sicr. Ond mae hon yn ddadl gwahanol. Trafod cyllid ydym ni yma, ac mae'n annheg iawn fod Llywodraeth Llundain yn targedu S4C. Mae BBC3 yn cal mwy na S4C er enghraifft. Un sianel Gymraeg sydd gyda ni, ac er bod angen iddo wella yn arw, rhaid gwneud yn siwr fod cyllid rhesymol yn parhau.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Llywodraeth Tori-Rhydd Llundain i dorri cyllideb S4C o 2

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 23 Gor 2010 5:34 pm

cymdeithas.org a ddywedodd:Mae Cymdeithas yr Iaith wedi condemnio'r toriadau arfaethedig i gyllideb S4C gan Lywodraeth Prydain: yn ôl stori yn y Guardian mae'r sianel yn wynebu toriadau hyd at 24% i'w chyllideb.

Fe ddywedodd Rhodri ap Dyfrig, Llefarydd Darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Cafwyd addewid gan y Toriaid cyn yr etholiad cyffredinol y byddai gwariant ar S4C yn cael ei warchod. Rydym felly'n hynod bryderus am y sïon hyn, a byddwn yn eu gwrthwynebu'n llwyr pe cânt eu gwireddu.

"Rydym wedi gofyn am gyfarfod gyda'r Ysgrifennydd Gwladol i drafod y sefyllfa (20fed o Fai) ond heb glywed yn ôl hyd yma. Mae'r ddarpriaeth cyfryngau Cymraeg yn edwino ar draws pob cyfrwng o deledu i radio, heb sôn am y diffyg enbyd yn y cyfryngau gwe Cymraeg, felly mae angen i ni warchod yr hyn sydd gennym ni. Mae ein sefyllfa yn unigryw, ac er bod rhaid i S4C ail-edrych ar ei strategaeth a'i gweinyddiaeth yn yr un modd â phawb arall, mae angen gwarchod y gyllideb rhag niweidio allbwn y Sianel a difrodi iaith ac economi Cymru.

"Mae angen gwarchod y gyllideb rhag niweidio allbwn y Sianel a difrodi iaith ac economi Cymru. Mae'r buddsoddiad cyffredinol yng nghyfryngau Cymru eisoes yn isel ar gyfer y Gymraeg, yn ogystal a'r Saesneg, o ystyried yr hyn sydd ar gael yng ngweddill Prydain. Rydym ni fel Cymdeithas eisiau sicrhau dyfodol digidol i'r Gymraeg, a bydd gallu S4C i gyfrannu at hyn yn disgyn yn sylweddol pe cawn ni'r toriadau. Mae hyn yn tanlinellu'r angen dybryd i ddatganoli grym dros reoleiddio a'r cyfryngau yn llwyr i Gymru fel y gallwn sicrhau na fydd penderfyniadau yn cael eu cymeryd fydd yn tanseilio'r Gymraeg a'r diwydiannau creadigol yng Nghymru."

"Eto gwelwn bod ideoleg adain dde yn Llundain sy'n cefnogi'r farchnad rydd ar draul buddiannau pobl Cymru a'n cymunedau, yn tanseilio seiliau'r iaith yng Nghymru. Mae'r hinsawdd o ran yr economi ddarlledu yng Nghymru'n fregus eisoes, ac mae'r toriadau yn mynd i gael effaith andwyol ar gwmnïau a chymunedau yn y wlad. Bydd safon y ddarpariaeth yn gostwng, a bydd hi'n amhosib cynnal S4C fel ag y mae hi gyda'r toriadau a awgrymir yn y papurau. Mae adroddiad diweddar Yr Athro Hargreaves wedi nodi pa mor bwysig yw S4C i economi Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd sydd yn brin o waith yn barod."
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin


Re: Llywodraeth Tori-Rhydd Llundain i dorri cyllideb S4C o 2

Postiogan bed123 » Gwe 23 Gor 2010 6:42 pm

Dwi yn poeni fawr am dyfydol S4C. Mae nifer y gwyliwr yn disgyn, chi'n cofio y swn am nifer oedd y gwylio Sgorio yn y papurau Prydeinig, a gwleidyddion wrth-Gymraeg fel Chris Bryant sy eisiau wneud y sianel ddwy-ieithog ag wrth gwrs os fuasa hynny yn digwydd, fuasa rhaglenni Gymraeg yn cael ei gwthio i'r ymylon, ar ol 11 nos agyb. Felly mae angen i S4C codi ei gem a gwneud mwy o rhaglenni fydd yn dod a'r gwyliwr yn nol, y prif rhaglenni i wneud hyn ydi rygbi, dramau a ambell i gomedi, dim byd gwell na comedi dda, ond pryd gawsom un gan S4C diweddaf?
bed123
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 47
Ymunwyd: Mer 11 Chw 2009 2:25 pm

Re: Llywodraeth Tori-Rhydd Llundain i dorri cyllideb S4C o 2

Postiogan Duw » Gwe 23 Gor 2010 7:02 pm

Sut ydy'r toriad yn cymharu gyda thoriadau cwmniau tebyg eraill?

Gyda llaw, dwi'n meddwl bo'r cynulliad yn falch uffernol nid nhw sy'n gorfod cyllido'r sianel.

Be ddigwyddodd i'r ansawdd? Gormod o'r cyfryngis 'ma gyda'u potie mêl.

'Torri Gwynt' ... wel dyna fe wylle. Beth arall, o ie - Dai ar y Piste a'r stwff 'na. Ambell gwyliothon 'Steddfod hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco


Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron