Tudalen 1 o 1

Twrchfap Llundain

PostioPostiwyd: Sad 23 Hyd 2010 11:39 am
gan Cricyfalaf
Os y'ch chi ar goll mewn cornel tywyll, dyma'r map priodol:
http://tinyurl.com/llundain
Cyfieithiad o'r London Underground yn ei gyfanrwydd.
Joiwch!

Re: Twrchfap Llundain

PostioPostiwyd: Mer 27 Hyd 2010 9:43 am
gan prypren
Gwych

Re: Twrchfap Llundain

PostioPostiwyd: Sul 27 Chw 2011 10:52 am
gan Dili Minllyn
Ambell waith ar deithiau diflas trwy Lundain, mi fyddaf i 'nifyrru 'n hunan trwy gyfieithu enwau'r gorsafoedd, er y byddaf i fel arfer yn cadw'n agosach at y gwreiddiol: Heol, Caerloyw, Gardd y Cwfaint, ac ati.

Mi fues i'n byw yn "Uwchfarnedd" am flynyddoedd - dyna'r lle mae'r tyrchod yn dod mas o'u twneli.

Re: Twrchfap Llundain

PostioPostiwyd: Sul 27 Chw 2011 7:31 pm
gan Josgin
Argol, am wreiddiol, ! . Mae'r allwedd werth ei weld ynddo'i hun. Mae fy mrawd yn byw yn ymyl 'Tregwr' , ddim yn bell o stadiwm enwog ' Glaswernblys' .

Re: Twrchfap Llundain

PostioPostiwyd: Iau 17 Maw 2011 4:00 pm
gan osian
Ma hwn yn wych! Oes 'na ffasiwn beth รข phostar i'w gael tybad?

Re: Twrchfap Llundain

PostioPostiwyd: Maw 19 Ebr 2011 11:13 am
gan Cynfael
Gwych! Oes mwy mapiau o lleoedd yn Lloegr yn Gymraeg gyda chi?