Tudalen 1 o 2

Diwedd Y Gymraeg

PostioPostiwyd: Maw 30 Tach 2010 12:21 am
gan cladduiaith
Mae'n amlwg ac yn wir ein bod ni yn raddol bach yn claddu'r iaith Gymraeg. I ni wedi creu mudiadau snobyddlyd ysgolheyg, sef y Mentrau iaith er mwyn lladd yr iaith. Mae cadarnleoedd yr iaith yn coli Cymreictod. Nifer o rhain lle creuwyd Mentrau Iaith, megys, Tawe Nedd, Caerfyrddin, Cwm Gwendraeth ayb. Gwir i ddweud fod rhai yn gweithio, lle nad oes Cymraeg yn barod.
Mae'r rhwyg Gogledd De yn dwyshau, gyda'r casuneb yn cynyddu, bron a bod hyd y gwelwn Korea arall os nad i ni yn ofalus.
Geiriau caled i dderbyn, on gwir pob gair.
Ymchwiliwch, a chi a ddarganfyddwch!
RHAID i ni newid agwedd nawr, neu mae hi ar ben, os nad yn barod.

Re: Diwedd Y Gymraeg

PostioPostiwyd: Maw 30 Tach 2010 4:30 am
gan Mali
Rargian fawr . Ydi hi mor ddu a hynny ? :ofn:

Re: Diwedd Y Gymraeg

PostioPostiwyd: Maw 30 Tach 2010 8:39 am
gan Hogyn o Rachub
Mae hi mor ddu รข hynny, ond dwi'm yn meddwl 'na bai y Mentrau Iaith na "chasineb cynyddol" rhwng Gogs a Hwntws ydi'r broblem ... !!

Re: Diwedd Y Gymraeg

PostioPostiwyd: Maw 30 Tach 2010 12:42 pm
gan Ray Diota
cladduiaith a ddywedodd: bron a bod hyd y gwelwn Korea arall os nad i ni yn ofalus.
Geiriau caled i dderbyn, on gwir pob gair.

ow, fi'n joio hon! :lol: :lol: :lol:

Delwedd

"Iawn, cont?"

Re: Diwedd Y Gymraeg

PostioPostiwyd: Mer 01 Rhag 2010 9:59 am
gan Manon
:D :D :D i Ray Diota!

Re: Diwedd Y Gymraeg

PostioPostiwyd: Gwe 03 Rhag 2010 10:29 pm
gan Seonaidh/Sioni
Be ddeudodd 12:45 amser maith yn ol?

...ond rwi wedi bod ar y dol yn rhy hir
Does dim siawns am waith, mae'r sefyllfa'n sur
Does dim gobaith mwy
I gael aros yn y plwy,
Rhaid gadael y fro,
Is-ddiwylliant ar ffo.

a dyna, swn i'n credu bon y broblem - diweithdra, alltudio, tai gweigion, mewnlifo...
Mae'n amlwg: os bydd Cymry Cymraeg yn gadael ac yn setlo mewn ardal Saesneg ei hiaith, yn arbennig lle nad oes cefnogaeth swyddogol i'r iaith (e.e. allan o Gymru), byddan nhw'n tueddu i golli'r iaith. Ac i'r gwaclefydd ar eu holion, wel, beth am dy haf bach ynte? Neu gartre ymddeol? Ac bydd pobl uniaith Seasneg yn symud i mewn ac, wel, yn y pen draw mi ddaw o'n haws cyfathrebu yn y Saesneg nag yn y Gymraeg...a dyna fo. Bydd diweithdra'n gwanhau'r cymunedau Cymraeg.

Ac be dy Menter ond cais am greu swyddi lleol, cadw'r cymuned yn fwy ac yn heini? Efallai dyd o ddim yn gwneud y tro'n llwyr, ond mae'n well na dim byd. Beth fyddai "Claddu Iaith" yn argrymu yn ei le? Hen bryd bod yn adeiladol, nid difethol.

Re: Diwedd Y Gymraeg

PostioPostiwyd: Gwe 03 Rhag 2010 11:42 pm
gan Josgin
"Dop ar y dol" oedd y gan , os y cofiaf yn iawn !

Re: Diwedd Y Gymraeg

PostioPostiwyd: Sad 04 Rhag 2010 4:38 pm
gan Chickenfoot
Ray Diota a ddywedodd:
cladduiaith a ddywedodd: bron a bod hyd y gwelwn Korea arall os nad i ni yn ofalus.
Geiriau caled i dderbyn, on gwir pob gair.

ow, fi'n joio hon! :lol: :lol: :lol:

Delwedd

"Iawn, cont?"

HARRO!

Re: Diwedd Y Gymraeg

PostioPostiwyd: Sad 04 Rhag 2010 8:26 pm
gan GutoRhys
cladduiaith a ddywedodd:Mae'r rhwyg Gogledd De yn dwyshau, gyda'r casuneb yn cynyddu, bron a bod hyd y gwelwn Korea arall os nad i ni yn ofalus.
Geiriau caled i dderbyn, on gwir pob gair.
Ymchwiliwch, a chi a ddarganfyddwch!
RHAID i ni newid agwedd nawr, neu mae hi ar ben, os nad yn barod.

Ydi wikileaks di cael gafael ar "cables" Carwyn Jones AM eto? Os ydi nhw mae'n siwr neith y sh#t hittio'r ffan. Just i adael chi wybod fod ni yn y gogledd yn cymeryd unrhyw fygythiad o ddifri ag am ymateb i'r de gyda'r arfau priodol.

Re: Diwedd Y Gymraeg

PostioPostiwyd: Llun 06 Rhag 2010 10:51 am
gan ceribethlem
GutoRhys a ddywedodd: