Diwedd Y Gymraeg

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Diwedd Y Gymraeg

Postiogan cladduiaith » Mer 08 Rhag 2010 10:17 pm

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Be ddeudodd 12:45 amser maith yn ol?

Ac be dy Menter ond cais am greu swyddi lleol, cadw'r cymuned yn fwy ac yn heini? Efallai dyd o ddim yn gwneud y tro'n llwyr, ond mae'n well na dim byd. Beth fyddai "Claddu Iaith" yn argrymu yn ei le? Hen bryd bod yn adeiladol, nid difethol.


Cytuno fod gwaith yn cael eu greu, ond faint? 20 trwy Gymru gyfan? ddim yn lot o gwbwl, a gan fod y tal yn eita isel, dydy pobol ddim yn aros, neu yn hytrach ddim yn gallu fforddio aros yn y swydd am hir.

Roedd mwy o weithgarreddau yn digwydd yn yr ardaloedd cyn y mentrau iaith. Gwnewch arolwg, ac fe welwch.
Allen ni wario'r arian yma yn well i ddiogelu'r iaith yn hytrach na talu am griwiau bychain i godi'r faner i hyrwyddo.

Mae angen i ni gyd, pob un ohonom frwydro nawr, os nad ydy yn rhy hwyr.

I ni yn plygu at bawb, ond neb yn plygu ato ni. Cymerwch cyfieithu ar y pryd.
Gwych o beth ydy cael cyfarfodydd yn yr Iaith Gymraeg gyda Cyfieithydd wrthi yn y gornel ar gyfer y di Gymraeg. OND, ystyriwch hwn - Pryd cafon ni'r Cymru Gyfieithu ar y pryd mewn cyfarfod Saesneg? Duw a gwaredo'r person cynta fydd yn ymateb ein bod ni yn deall Saesneg. Nid dyna'r pwynt o gwbwl.

I'r Iaith barhau, rhaid, rhaid, rhaid i ni wneud rhywbeth nawr, neu fydd hi yn rhy hwyr....efallai y bod hi.
cladduiaith
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 2
Ymunwyd: Maw 30 Tach 2010 12:12 am

Re: Diwedd Y Gymraeg

Postiogan ceribethlem » Iau 09 Rhag 2010 2:10 pm

cladduiaith a ddywedodd:
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Be ddeudodd 12:45 amser maith yn ol?

Ac be dy Menter ond cais am greu swyddi lleol, cadw'r cymuned yn fwy ac yn heini? Efallai dyd o ddim yn gwneud y tro'n llwyr, ond mae'n well na dim byd. Beth fyddai "Claddu Iaith" yn argrymu yn ei le? Hen bryd bod yn adeiladol, nid difethol.


Cytuno fod gwaith yn cael eu greu, ond faint? 20 trwy Gymru gyfan? ddim yn lot o gwbwl, a gan fod y tal yn eita isel, dydy pobol ddim yn aros, neu yn hytrach ddim yn gallu fforddio aros yn y swydd am hir.

Roedd mwy o weithgarreddau yn digwydd yn yr ardaloedd cyn y mentrau iaith. Gwnewch arolwg, ac fe welwch.
Allen ni wario'r arian yma yn well i ddiogelu'r iaith yn hytrach na talu am griwiau bychain i godi'r faner i hyrwyddo.

Simplistaidd tu hwnt yw dweud fod mwy o weithgareddau arfer digwydd, felly bai y mentrau iaith yw hi. Ti'n dweud dylid gwario'r arian yn well, tyred ag enghraifft i ni o sut bydd yr arian yn cael ei wario'n well.
Ar beth bydd yr arian yn cael ei wario?
Pwy bydd yn rhedeg y prosiect?
Sut byddan nhw'n cael eu talu?
Sut byddem yn gwybod fod yr arian yn cael ei wario'n ddoeth?
ayyb

cladduiaith a ddywedodd:Mae angen i ni gyd, pob un ohonom frwydro nawr, os nad ydy yn rhy hwyr.

I ni yn plygu at bawb, ond neb yn plygu ato ni. Cymerwch cyfieithu ar y pryd.
Gwych o beth ydy cael cyfarfodydd yn yr Iaith Gymraeg gyda Cyfieithydd wrthi yn y gornel ar gyfer y di Gymraeg. OND, ystyriwch hwn - Pryd cafon ni'r Cymru Gyfieithu ar y pryd mewn cyfarfod Saesneg? Duw a gwaredo'r person cynta fydd yn ymateb ein bod ni yn deall Saesneg. Nid dyna'r pwynt o gwbwl.

I'r Iaith barhau, rhaid, rhaid, rhaid i ni wneud rhywbeth nawr, neu fydd hi yn rhy hwyr....efallai y bod hi.

Ti'n gweud fod rhaid gwneud "rhywbeth", ond ddim yn cynnig unrhyw syniadau.
Parthed y cyfieithu ar y pryd, wyt ti erioed wedi mynychu cyfarfod a gofyn am gael cyfieithu yno cyn cyrraedd?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Diwedd Y Gymraeg

Postiogan GutoRhys » Sad 11 Rhag 2010 12:14 pm

cladduiaith a ddywedodd:
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Be ddeudodd 12:45 amser maith yn ol?

Mae angen i ni gyd, pob un ohonom frwydro nawr, os nad ydy yn rhy hwyr.

I'r Iaith barhau, rhaid, rhaid, rhaid i ni wneud rhywbeth nawr, neu fydd hi yn rhy hwyr....efallai y bod hi.


Asu lot o dan yn dy fol, wyt ti yn teimlo ychydig yn "ronery" (unig) ynglun ar mater. Be wyt ti yn awgrymu? Swnio fatha lot o stem yn cael ei ryddhau ond dim awgrymiadau???? i.e. dim byd gwreiddiol i'r pwnc
Rhithffurf defnyddiwr
GutoRhys
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 192
Ymunwyd: Iau 10 Chw 2005 7:23 pm
Lleoliad: Fry yn y ne, neu ar y llawr

Re: Diwedd Y Gymraeg

Postiogan dil » Maw 25 Ion 2011 12:29 pm

dwin meddwl fod menter iaith yn neud lot o waith da ond
am riw reswm ma nhwn meddwl fod y gallu gena nhw i drefnu gigs.
yn aml ma nhwn wag ac yn ddi ddychymig ac yn creu delwedd sal iawn or iaith.
yn hytrach na cal bobl gyda dim arbenigaeth yn y maes pam neith menter ddim
cal pobl gyda profiad i helpu gydar gwaith?
tydi hun ddim yn wir pob amser ond dwi wedi gweld enghreifftiau difrifol
lle ma pres cyhoeddys yn cal i daflu ir gwynt.
trefnwyr syn dda am lenwi cais arianol ond syn gwybod dim am sut i drefnu digwyddiad.
mar ateb yn syml,
tydi menter ddim yn canu, gwneud y PA na gosod llwyfa i fynu.
ma nhwn galw ar arbenigwyr.dylid gwneud rhyn fath gyda trefnur digwyddiad.
Rhithffurf defnyddiwr
dil
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 488
Ymunwyd: Gwe 19 Maw 2004 11:47 am

Nôl

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron