Tudalen 1 o 1

Trwydded deledu a phrotest CyIG

PostioPostiwyd: Maw 07 Rhag 2010 4:20 pm
gan Hogyn o Rachub
Helo 'na. Dwi'n bwriadu tynnu'n ôl fy nhrwydded deledu i gefnogi'r ymgyrch, ond dydw i ddim yn gwybod sut mae gwneud hyn. A all rhywun roi gwbod be sydd angen ei wneud i wneud hyn? Efallai y bydd yn handi hefyd i bobl eraill sy'n yr un sefyllfa fel eu bod yn gwbod pa gamau i'w cymryd.
Diolch!

Re: Trwydded deledu a phrotest CyIG

PostioPostiwyd: Maw 07 Rhag 2010 10:17 pm
gan Duw
Ro'n i'n wyndran am hyn hefyd. Oes rhyw slip ar gael neu rywbeth i'w anfon nol at y cwmni yn datgan ein bwriad? Hah, caiff Mrs. Duw sioc, yhi sy'n talu'r peth eniwei. Ffili aros i weld ei hwyneb pan ddaw'r bois mewn glas i'w llusgo bant! Na, dyw hwnna ddim yn ffyni.

Re: Trwydded deledu a phrotest CyIG

PostioPostiwyd: Mer 08 Rhag 2010 12:31 pm
gan Gwen
Cytuno efo galwad HoRach am ragor o wybodaeth. Dwi'n siwr fod 'na lot ohonan ni fysa'n fodlon ymuno efo'r ymgyrch, ond ar hyn o bryd, dan ni jyst yn aros am arweiniad. Gobeithio y daw o yn o fuan.

Re: Trwydded deledu a phrotest CyIG

PostioPostiwyd: Mer 08 Rhag 2010 7:30 pm
gan Hedd Gwynfor
Dyma beth sydd ar wefan y Gymdeithas ynglyn a'r mater ar hyn o bryd - http://cymdeithas.org/2010/11/18/sefyll ... eledu.html - Fe wnaf holi y grwp Digidol os oes modd cael mwy o gyfarwyddiadau...

Re: Trwydded deledu a phrotest CyIG

PostioPostiwyd: Mer 08 Rhag 2010 7:41 pm
gan ceribethlem
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Dyma beth sydd ar wefan y Gymdeithas ynglyn a'r mater ar hyn o bryd - http://cymdeithas.org/2010/11/18/sefyll ... eledu.html - Fe wnaf holi y grwp Digidol os oes modd cael mwy o gyfarwyddiadau...

Y grwp digidol? Faint sydd yn hwnnw? 0 neu 1?