Tudalen 1 o 1

Pobl o Gogwatcher yn bychannu'r iaith Gymraeg.

PostioPostiwyd: Sul 24 Ebr 2011 6:28 pm
gan Nia Eleri
Fi'n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Abertawe yn astudio Cymraeg ac yn rhan o'r Gym Gym (y gymdeithas gymraeg) ac fe gafodd un o'r aelodau (sydd ddim yn siarad Cymraeg, ond yn ei ddysgu ac yn ymgrychu'n frwd dros yr iaith) gopi o erthygl gan "Gogwatcher" yn siarad fod dim pwrpas i'r Gymraeg ym myd addysg ayb. Cymrwch amser i ddarllen y linc isod. Anghredadwy fod y fath bob yn byw yng Nghymru yn fy marn i!

http://swanseaeducation.com/2011/04/19/ ... -language/


http://www.gogwatch.com/

Nia Eleri.

Re: Pobl o Gogwatcher yn bychannu'r iaith Gymraeg.

PostioPostiwyd: Llun 25 Ebr 2011 8:31 am
gan Hogyn o Rachub
Mae'r wefan gyfan 'na yn afiach. Ych.

Re: Pobl o Gogwatcher yn bychannu'r iaith Gymraeg.

PostioPostiwyd: Llun 09 Mai 2011 10:08 pm
gan Dylan
dw i'n synnu nad ydw i 'rioed 'di clywed am y wefan yna tan rwan. Ydi early warning alert y Cymry ar-lein wedi torri??

Re: Pobl o Gogwatcher yn bychannu'r iaith Gymraeg.

PostioPostiwyd: Maw 10 Mai 2011 8:04 am
gan ceribethlem
Dylan a ddywedodd:dw i'n synnu nad ydw i 'rioed 'di clywed am y wefan yna tan rwan. Ydi early warning alert y Cymry ar-lein wedi torri??

Aelod newydd yw Nia-Eleri, efallai mai hi yw ein early warning alert y Cymry ar-lein newydd :winc:

Re: Pobl o Gogwatcher yn bychannu'r iaith Gymraeg.

PostioPostiwyd: Maw 10 Mai 2011 5:03 pm
gan Nia Eleri


Dyma fideo ynglyn a hanes yr iaith Gymraeg a beth mae'r Saeson wedi neud iddi dros y canrifoedd!
(Gobitho bo fi di neud e'n iawn bod modd ei weld haha!)

Nia Eleri.

Re: Pobl o Gogwatcher yn bychannu'r iaith Gymraeg.

PostioPostiwyd: Mer 25 Mai 2011 3:01 pm
gan Ben Alun
Shw mae Eleri,
Dw i'n mynd i Brifysgol Abertawe i neud Cymraeg ym Mis medi eleni , felly os ti ishe gwna i dy adio ar facebook neu rywbeth os nei di roi dy enw i mi
Paid poeni gormod am y bobl 'ma, maen nhw'n rhan o'r hen genhedlaeth fydd yn marw cyn bo hir, dyna sut dw i'n edrych ar y peth. Mae'r ddwy iaith a siaredir yng Nghymru yma i aros, mae hyn yn glir. Gyda'r hyrwyddo a'r hybu sydd yn mynd ymlaen ar hyn o bryd, bydd y gwrthwynebiad yn marw allan ymhen can mlynedd, rwy'n siwr. Gad iddyn nhw weud be maen nhw isio, yr ifainc fel ni fydd yn llywio dyfodol Cymru, nage nhw!