Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Faint ohonom ni fyddai'n troi at bobl oedd yn siarad Saesneg gyda'i gilydd ac yn deud rhywbeth fel "Be' am siarad Cymraeg yma?", neu "Dyna hurt ynde, methu siarad Cymraeg yma", neu "Ddrwg gen' i, ond dwi'm yn eich dallt chi". Agwedd, dyna'r peth. O hyd mae'n "Saesneg = gradd gyntaf, Cymraeg = eilradd" ac oni bydd hyn yn newid bydd trafferth iaith fel 'ma. Be maen nhw'n deud yn Lloegr - "When in Rome, do as Rome does" neu rywbeth tebyg. Hen bryd am hyn yng Nghymru hefyd!
Clywch, clywch! 'Swn i'n dweud 'ny wrthynt, 'swn i'n cael fy mwrw. Un rheol i un, ac un arall i'r llall! Nid ydynt yn deall ein bod yn siarad Cymraeg er mwyn cyfleu ystyr, ond hytrach yn meddwl ein bod yn ei wneud er mwyn eu crafu.
Yr union rwyt yn ei ddweud yw e - agwedd.