Tudalen 1 o 2

Siarad yr iaith ymhlith y di-Gymraeg

PostioPostiwyd: Sul 15 Mai 2011 9:28 pm
gan xxglennxx
Helo, bawb, sut mae? Iawn 'te, siŵr o fod rydych wedi dod ar draws y trywydd hwn sawl gwaith yn y gorffennol, naill ai drwy brofiad neu dybio, ond dyma'r hyn ddigwyddodd: ro'n i ma's gyda ffrindiau di-Gymraeg heno, a daeth ffrind Cymraeg ataf a siaradon ni yn y Gymraeg. Nawr, mae hyn wedi digwydd imi sawl gwaith yn barod, ac rydym ni (fy ffrindiau a fi) wedi ffraeo amdano yn barod, ond y tro yma, dywedais y gair "actiwli" yn lle "mewn gwirionedd" wrth siarad â'm ffrind Cymraeg ar goedd.

Ta beth, nid yw hynny nac yma neu acw, y peth a oedd yn fy ngwylltio oedd eu barnau nhw - dywedont y dylen ni wedi siarad yn yr iaith faith yn eu plith nhw gan nad ydynt yn deall yr heniaith. Er fy mod yn cytuno â nhw i raddau, dwi hefyd yn cytuno er iddynt fynnu imi wneud y fath beth, maent yn rhwystro fy hawliau ieithyddol i siarad yr heniaith lle bynnag fy mod am ei siarad hi yng Nghymru. Parheais i ddweud pe byddwn i'n siarad yr iaith fain yn lle'r heniaith lle bo pobl di-Gymraeg, taswn i byth yn cael cyfle i siarad y Gymraeg, oherwydd bo plan Alys ymhob man!!!

Pe ar eu pennau eu hunain yr oeddent (dim ond un ffrind a fi, hynny yw), byddwn i wedi tueddu troi'r Saesneg, ond mi roedd dau ffrind a finnau, felly yr oeddent yn gallu siarad ymysg ei gilydd wrth imi siarad yn y Gymraeg.

Beth ydych chi'n feddwl? Sut wnaethoch/fyddwch yn ymateb i'r fath sylwadau hyn?

Diolch.

Re: Siarad yr iaith ymhlith y di-Gymraeg

PostioPostiwyd: Sul 15 Mai 2011 10:47 pm
gan Barry
Yn bersonol, Glenn, rwy'n tueddu parhau yn Gymraeg, ac eithrio pan mae'r sgwrs yn parhau am amser hir neu'n trafod pwnc o ddiddordeb i'r bobl ddi-Gymraeg.

Dim ond cwpl o weithiau mae pobl wedi cwyno am fy mod i'n siarad Cymraeg, a fy ymateb bob tro oedd, "I wasn't talking to you!"

Re: Siarad yr iaith ymhlith y di-Gymraeg

PostioPostiwyd: Sul 15 Mai 2011 11:11 pm
gan xxglennxx
Barry a ddywedodd:Yn bersonol, Glenn, rwy'n tueddu parhau yn Gymraeg, ac eithrio pan mae'r sgwrs yn parhau am amser hir neu'n trafod pwnc o ddiddordeb i'r bobl ddi-Gymraeg.

Dim ond cwpl o weithiau mae pobl wedi cwyno am fy mod i'n siarad Cymraeg, a fy ymateb bob tro oedd, "I wasn't talking to you!"


Dwi'r un peth, ond dwi'n rhwystredig bod y cach hwn wastad yn codi! Wrth imi ddweud, "You don't go to France and demand that the French speak French around you, so why do you demand that Welsh speakers speak English around you in Wales?" maent wastad yn dweud, "But I don't speak Welsh and think it's rude that you're excluding me/us..." Wel dwi'n credu ei fod yn anfoesgar ichi fynnu fy mod yn siarad y Saesneg yma yng Nghymru, ond a ydych yn fy nghlywed yn cwyno?!

Sut ydych chi'n deillio â'r topig hwn pan mai eich ffrindiau personol chi sy'n dweud y fath bethau? Mae'r mater hwn wedi peri ambell i ffrae rhyngddynt, felly fel arfer dwi'n mynnu i neb sôn am y Gymraeg wrth inni gasglu fel grŵp (dim ond dau ohonom sy'n medru'r Gymraeg), ond y tro yma, daeth fy ffrind i siarad Cymraeg, ac mae e'n gwylltio os ydw i'n siarad yr iaith fain â fe - felly doeddwn i ddim yn mynd i ennill y naill ai ffordd!!!

Glenn

Re: Siarad yr iaith ymhlith y di-Gymraeg

PostioPostiwyd: Sul 15 Mai 2011 11:15 pm
gan Barry
Does dim ffordd i ennill mewn sefyllfa o'r fath - mae rhai pobl yn wrth-Gymraeg a does dim newid eu meddwl, yn anffodus.

Re: Siarad yr iaith ymhlith y di-Gymraeg

PostioPostiwyd: Sul 15 Mai 2011 11:33 pm
gan Lewys120
Barry a ddywedodd:Does dim ffordd i ennill mewn sefyllfa o'r fath - mae rhai pobl yn wrth-Gymraeg a does dim newid eu meddwl, yn anffodus.


Cytuno'n llwyr efo ti Barry.
Yr unig peth allwn ni neud yw parhau siarad y Gymraeg.
Dwi'n cael yr union rhin sefyllfa pryd mae fy nghefnder yn dod nol o Dwbai i aros efo ein mam gu.
Dwi wastod siarad cymraeg efo mam gu, ond ma fy nghefnder yn teimlo fel bod hi 'di cael i adael mas wedyn.
Dwi'n hollol deall sefyllfa hi achos dwi'n teimlo'n anghyfforddus o amgulch pobl sy'n siarad wed... indiaidd i eu gilydd.
Ond ar diwedd y dydd os byddwn i gyd yn plygu er mwyn plesio y di-Gymraeg bydd y iaith yn marw!.
Yr ateb yw i siarad Cymraeg trwy'r amser a esbonio'n gwrtais y rheswm pam, a hynnu yw er mwyn hybu'r iaith!.
Dwi 'di codi diddordeb llawer iawn o bobl dim ond trwy esbonio fy rhesymau dros parhau yn y Gymraeg.

Re: Siarad yr iaith ymhlith y di-Gymraeg

PostioPostiwyd: Llun 16 Mai 2011 6:25 am
gan Josgin
Parhau i siarad Cymraeg a malio dim am deimladau'r Di-Gymraeg .

Re: Siarad yr iaith ymhlith y di-Gymraeg

PostioPostiwyd: Llun 16 Mai 2011 4:30 pm
gan ceribethlem
Ow butt ow, if I was ffacin talkin' to ewe, ewe'd ffacin knows it.

Gellir newid y gair to am y gair about os yn briodol.

Re: Siarad yr iaith ymhlith y di-Gymraeg

PostioPostiwyd: Llun 16 Mai 2011 4:48 pm
gan prypren
Fyddai bob amser yn siarad cymraeg gyda siaradwyr cymraeg heb deimlo unrhyw fath o gywilydd, mae'n beth cwbwl naturiol i neud. Rhaid i bobol sy'n methu'r gymraeg dyfu lan a sylweddoli eu bod nhw'n byw mewn gwlad/byd amlieithog. Yn yr enghraifft ti'n nodi roedd yn ddigon rhwydd i dy gyfeillion siarad hefo'u gilydd am gyfnod, felly roedd yn anaeddfed ac yn amharchus iddyn nhw gwyno.

Wedi deud hynny, does dim ishio teimlo'n embarassed am droi at y saesneg am gyfnod chwaith. Iaith rhyngwladol yw hi bellach, nid 'iaith y sais'. Roeddwn i mewn stafell hefo pobol o'r Almaen yn ddiweddar, ac roedden ni'n siarad saesneg hefo'n gilydd er mwyn cyfathrebu ac yna ein ieithoedd ein hunain wrth gip siarad a'n ffrindiau

Beth am drefnu ambell noson 'gymraeg', h.y dimond siaradwyr cymraeg yn y criw, fel nad ydi'r broblem yma'n codi

Re: Siarad yr iaith ymhlith y di-Gymraeg

PostioPostiwyd: Llun 16 Mai 2011 5:28 pm
gan llew99
Mae'n gymleth, os dwi wrth bwrdd a rhai yn siarad Cymraeg a rhai ddim a dwi'n siarad i'r grwp, mae debyg fyddai siarad Saesneg allan o cwrteisi. Os dwi ar siarad wrth y bwrdd a mae'r person sydd eistedd nesaf imi a hwnnw deallt Cymraeg felly wrth gwrs dwi'n siarad Cymraeg. Mae'n dibynnu ar y sefyllfa. Er dwi'n cytuno gyda sylwad uchod, os ni bob tro ddim yn siarad Cymraeg i pleshio'r ddi-gymraeg be fydd dyfodol yr iaith? Felly dwi yn siarad Cymraeg mor gymaint as mae hynny yn bosib, ag os mae ddi-gymraeg yn gwneud sylwad am hynny, dwi'n esbonio rwyf yn siarad fy mam-iaith i, nid i profi pwynt, ond oherwydd y Gymraeg yw fy mam iaith naturiol.

Re: Siarad yr iaith ymhlith y di-Gymraeg

PostioPostiwyd: Llun 16 Mai 2011 8:15 pm
gan Seonaidh/Sioni
Faint ohonom ni fyddai'n troi at bobl oedd yn siarad Saesneg gyda'i gilydd ac yn deud rhywbeth fel "Be' am siarad Cymraeg yma?", neu "Dyna hurt ynde, methu siarad Cymraeg yma", neu "Ddrwg gen' i, ond dwi'm yn eich dallt chi". Agwedd, dyna'r peth. O hyd mae'n "Saesneg = gradd gyntaf, Cymraeg = eilradd" ac oni bydd hyn yn newid bydd trafferth iaith fel 'ma. Be maen nhw'n deud yn Lloegr - "When in Rome, do as Rome does" neu rywbeth tebyg. Hen bryd am hyn yng Nghymru hefyd!