Helo, bawb, sut mae? Iawn 'te, siŵr o fod rydych wedi dod ar draws y trywydd hwn sawl gwaith yn y gorffennol, naill ai drwy brofiad neu dybio, ond dyma'r hyn ddigwyddodd: ro'n i ma's gyda ffrindiau di-Gymraeg heno, a daeth ffrind Cymraeg ataf a siaradon ni yn y Gymraeg. Nawr, mae hyn wedi digwydd imi sawl gwaith yn barod, ac rydym ni (fy ffrindiau a fi) wedi ffraeo amdano yn barod, ond y tro yma, dywedais y gair "actiwli" yn lle "mewn gwirionedd" wrth siarad â'm ffrind Cymraeg ar goedd.
Ta beth, nid yw hynny nac yma neu acw, y peth a oedd yn fy ngwylltio oedd eu barnau nhw - dywedont y dylen ni wedi siarad yn yr iaith faith yn eu plith nhw gan nad ydynt yn deall yr heniaith. Er fy mod yn cytuno â nhw i raddau, dwi hefyd yn cytuno er iddynt fynnu imi wneud y fath beth, maent yn rhwystro fy hawliau ieithyddol i siarad yr heniaith lle bynnag fy mod am ei siarad hi yng Nghymru. Parheais i ddweud pe byddwn i'n siarad yr iaith fain yn lle'r heniaith lle bo pobl di-Gymraeg, taswn i byth yn cael cyfle i siarad y Gymraeg, oherwydd bo plan Alys ymhob man!!!
Pe ar eu pennau eu hunain yr oeddent (dim ond un ffrind a fi, hynny yw), byddwn i wedi tueddu troi'r Saesneg, ond mi roedd dau ffrind a finnau, felly yr oeddent yn gallu siarad ymysg ei gilydd wrth imi siarad yn y Gymraeg.
Beth ydych chi'n feddwl? Sut wnaethoch/fyddwch yn ymateb i'r fath sylwadau hyn?
Diolch.