Tudalen 2 o 2

Re: Siarad yr iaith ymhlith y di-Gymraeg

PostioPostiwyd: Maw 17 Mai 2011 7:51 pm
gan IestynTyddynAdi
Dwi'n cofio eistedd ar fainc mewn theme park y florida flynyddoedd yn ol, a deud i mrawd "llond y lle ma o blydi saeson!" a dyma na ddyn yn troi atai a deud "mae na bobl Cymraeg yma hefyd."
Me hi'n bwysig defnyddio'r Gymraeg gyda gofal lle bynnag yda chi!

Re: Siarad yr iaith ymhlith y di-Gymraeg

PostioPostiwyd: Iau 19 Mai 2011 3:33 pm
gan xxglennxx
prypren a ddywedodd:Beth am drefnu ambell noson 'gymraeg', h.y dimond siaradwyr cymraeg yn y criw, fel nad ydi'r broblem yma'n codi

Sai'n methu â neud 'ny; tyfais yn uniaith Saesneg gyda ffrindiau Saesneg. Dysgais y Gymraeg yn hwyrach, felly mae 85% o'm ffrindiau yn siaradwyr uniaith Saesneg. Daeth yn ffrind ataf, sydd wedi dysgu'r Gymraeg hefyd, i siarad yn Gymraeg. Fe yw'r unig fachgen fy mod yn ei weld yn aml sy'n medru'r Gymraeg yma yn Abertyleri.

Re: Siarad yr iaith ymhlith y di-Gymraeg

PostioPostiwyd: Iau 19 Mai 2011 3:38 pm
gan xxglennxx
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Faint ohonom ni fyddai'n troi at bobl oedd yn siarad Saesneg gyda'i gilydd ac yn deud rhywbeth fel "Be' am siarad Cymraeg yma?", neu "Dyna hurt ynde, methu siarad Cymraeg yma", neu "Ddrwg gen' i, ond dwi'm yn eich dallt chi". Agwedd, dyna'r peth. O hyd mae'n "Saesneg = gradd gyntaf, Cymraeg = eilradd" ac oni bydd hyn yn newid bydd trafferth iaith fel 'ma. Be maen nhw'n deud yn Lloegr - "When in Rome, do as Rome does" neu rywbeth tebyg. Hen bryd am hyn yng Nghymru hefyd!

Clywch, clywch! 'Swn i'n dweud 'ny wrthynt, 'swn i'n cael fy mwrw. Un rheol i un, ac un arall i'r llall! Nid ydynt yn deall ein bod yn siarad Cymraeg er mwyn cyfleu ystyr, ond hytrach yn meddwl ein bod yn ei wneud er mwyn eu crafu.

Yr union rwyt yn ei ddweud yw e - agwedd.

Re: Siarad yr iaith ymhlith y di-Gymraeg

PostioPostiwyd: Iau 19 Mai 2011 3:41 pm
gan xxglennxx
IestynTyddynAdi a ddywedodd:Dwi'n cofio eistedd ar fainc mewn theme park y florida flynyddoedd yn ol, a deud i mrawd "llond y lle ma o blydi saeson!" a dyma na ddyn yn troi atai a deud "mae na bobl Cymraeg yma hefyd."
Me hi'n bwysig defnyddio'r Gymraeg gyda gofal lle bynnag yda chi!

Ha. O'n i ar drên unwaith yn mynd i Gaerdydd, a gofynnodd y tocynnwr os oes ysgrifbin gan un ohonom ni. Troais at yn ffrind a dywedais (yn Gymraeg), "Na, sori, dwi'm yn hen." Oherwydd o'n ni i gyd yn siarad Cymraeg yn ein plith, gofynnodd os ydyn ni'n dysgu'r iaith yn Saesneg, ac wedyn dywedais ei fod yn dod o Gaernarfon ac yn siarad Cymraeg yn rhugl!!!!! O'n i'n teimlo'n reit ffŵl. Ond dwi ddim yn meddwl ei fod e wedi fy nghlywed, diolch byth.

Re: Siarad yr iaith ymhlith y di-Gymraeg

PostioPostiwyd: Gwe 20 Mai 2011 11:13 pm
gan Duw
What? you want me to speak English every time a non-Welsh speaker walks into the room? No wonder my language is in danger of dying out with an attitude like that. Hey, Ravi, do you mind whitening your face when you come into the Pub, I think it's really rude of you to show your brown face when there are some of us here with white faces. Mark, do me a favour, cut your willy off. It's really annoying when you hang around with that thing in your trousers when we've got a girl in our midst. Rude is what I call it. You really have no manners do you?

Re: Siarad yr iaith ymhlith y di-Gymraeg

PostioPostiwyd: Maw 24 Mai 2011 12:22 pm
gan prypren
Cer mas a dy ffrind sy'n siarad cymraeg te!

Sdim ateb syml i hyn achos mae ceisio cymdeithasu mewn criw sy'n siarad iaith dachi ddim yn deall yn anodd iawn ac yn deimlad anghyfforddus. Mae siaradwyr cymraeg yn gorfod bod yn sensitif i bobol yn y criw sydd ddim yn siarad cymraeg. Fyddai fel arfer yn dechrau yn gymraeg, troi i'r saesneg fel fod y criw yn cael rhannu yn y cymdeithasu, chydig mwy o gymraeg ac yna saesneg bob yn ail, gan godi'r cwota o gymraeg yn raddol. Fel hyn dyw'r bobol od yma sydd ond yn gallu siarad un iaith yn araf ddod dros y sioc gwreiddiol ac ddim yn teimlo eich bod chi'n 'ceisio gwneud pwynt'

Ar y llaw arall mae angen i Gymru di-gymraeg ddangos parch at yr iaith, a pheidio swnian pan mae pobol yn siarad cymraeg, ac os nad ydyn nhw - yna cweir

Re: Siarad yr iaith ymhlith y di-Gymraeg

PostioPostiwyd: Maw 24 Mai 2011 2:52 pm
gan Hogyn o Rachub
Does 'na ddim atab syml. Os tisho cynnwys rhywun di-Gymraeg mewn sgwrs rhaid yn anffodus troi at y Saesneg. Ond os ti'n siarad un-i-un efo rhywun siarad Cymraeg de. Er, sgen i fawr o brofiad o hyn, sgen i'm ffrindiau sy ddim yn medru siarad Cymraeg!

Re: Siarad yr iaith ymhlith y di-Gymraeg

PostioPostiwyd: Mer 08 Meh 2011 5:07 pm
gan Jon Sais
Ni faswn i'n troi at y Saesneg, beth am ofyn (yn gwrtais wrth gwrs) iddyn nhw feddwl am ddysgu'r heniaith, mae'na ddigon o ddefnydd dysgu ar y we, gwelir SSIW http://www.saysomethingin.com/welsh