Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn chwilio am 50 ffilm fer sy'n dal y profiad o fod yn Gymry Cymraeg. Bydd y ffilmiau buddugol yn cael eu golygu at ei gilydd i greu un ffilm a fydd yn cael ei dangos trwy 2012 a 2013.
- Thema - y profiad o fod yn Gymro Cymraeg
- Hyd pob ffilm - un munud
- Iaith - prif iaith y ffilmiau fydd Cymraeg
- Unrhyw dechnoleg yn dderbyniol e.e. ffôn symudol, camera fideo neu lluniau gyda cherddoriaeth
- Unrhyw arddull yn dderbyniol e.e. drama, dogfen, fideo cerddorol
- Cystadleuaeth yn agored i bob oedran
- Nid oes angen i'r ffilm fod yn wleidyddol o gwbwl!
- I gystadlu bydd angen llwytho'r ffilm i youtube a rhoi 'munudiddathlu' yn un o'r tagiau.
- Beirniaid gwadd o'r byd fideo feiral
Mae'r dyddiad cau wedi ei ymestyn i Ionawr 20fed er mwyn rhoi amser i bobl lwytho eu deunydd. Gelli weld fideos sydd wedi eu llwytho eisoes wrth fynd i youtube a chwilio am 'MunudiDdathlu'. Ebostia lleucu@cymdeithas.org gydag unrhyw gwestiwn neu i ddweud dy fod wedi llwytho fideo.
Manylion llawn yma - http://cymdeithas.org/2011/08/24/munud_ ... ithas.html