Tudalen 1 o 1

Munud i ddathlu : Ffilm Dorfol 1af yn y Gymraeg

PostioPostiwyd: Llun 09 Ion 2012 7:16 pm
gan Hedd Gwynfor
Delwedd

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn chwilio am 50 ffilm fer sy'n dal y profiad o fod yn Gymry Cymraeg. Bydd y ffilmiau buddugol yn cael eu golygu at ei gilydd i greu un ffilm a fydd yn cael ei dangos trwy 2012 a 2013.

  • Thema - y profiad o fod yn Gymro Cymraeg
  • Hyd pob ffilm - un munud
  • Iaith - prif iaith y ffilmiau fydd Cymraeg
  • Unrhyw dechnoleg yn dderbyniol e.e. ffôn symudol, camera fideo neu lluniau gyda cherddoriaeth
  • Unrhyw arddull yn dderbyniol e.e. drama, dogfen, fideo cerddorol
  • Cystadleuaeth yn agored i bob oedran
  • Nid oes angen i'r ffilm fod yn wleidyddol o gwbwl!
  • I gystadlu bydd angen llwytho'r ffilm i youtube a rhoi 'munudiddathlu' yn un o'r tagiau.
  • Beirniaid gwadd o'r byd fideo feiral

Mae'r dyddiad cau wedi ei ymestyn i Ionawr 20fed er mwyn rhoi amser i bobl lwytho eu deunydd. Gelli weld fideos sydd wedi eu llwytho eisoes wrth fynd i youtube a chwilio am 'MunudiDdathlu'. Ebostia lleucu@cymdeithas.org gydag unrhyw gwestiwn neu i ddweud dy fod wedi llwytho fideo.

Manylion llawn yma - http://cymdeithas.org/2011/08/24/munud_ ... ithas.html

Re: Munud i ddathlu : Ffilm Dorfol 1af yn y Gymraeg

PostioPostiwyd: Sad 25 Chw 2012 12:37 pm
gan asiarybelska
Dwi'n credu bydden ni'n edrych arno yn ystod dathliadau Gwyl Dewi Sant ym Mhoznań, Gwlad Pwyl, Mawrth 1af. Felly, mae'n cael sylw rhyngwladol!