gan Seonaidh/Sioni » Sul 13 Mai 2012 8:44 am
Rwi'n gyfarwydd a Gaeleg yr Alban ac mae 'na dreiglo yno hefyd, ar lafar ac wrth sillafu. Ond nid yr holl dreiglo sy'n cael ei sgwennu, e.e. mae treiglad trwynol gan rai tafodieithoedd: "yn nhy fy rhieni" => "ann an taigh mo phàrantan", ond ar lafar yn bur aml clywir "ann an nhaigh mo phàrantan". Ac "er gwaethaf" => "a dh'aindeoin": ni chlywir fyth y "d" ar ol yr "n" ("y ghannion", mwy neu lai).
Os 'ti'n edrych ar unrhyw iaith Geltaidd Ynysig (cànan Ceilteach Eileanach, Insular Celtic language) gweli di dreiglo - Gwyddeleg, Manaweg, Gaeleg, Cymraeg, Cernyweg, Llydaweg - mae treiglo gan bob un. Digwydd hyn ym mhob iaith i raddau (e.e. Saesneg: knife - knives): y peth braidd yn eithriadol am yr ieithoedd Celtaidd Ynysig ydy fod y treiglo'n digwydd ar y blaen yn ogystal. Ffaith - rhaid ymdopi.
A bheil thu gam aithneachadh?