Tudalen 1 o 1
Cael gwared a treiglo
Postiwyd:
Sad 05 Mai 2012 1:01 am
gan tommybach
Oes pwynt i ni dreiglo wrth i ni ysgrifennu'r iaith? Siŵr o fod mae'n gwneud pethau'n anodd iawn ar gyfer rhaglenni fel Google Translate ac mae treiglo yn uffernol o anodd i ddysgu. Treiglo = helpu iaith i lifo ar lafar (ffêr enyff) ond mae treiglo yn gwneud yr iaith yn anodd iawn i ddysgu!
Llai o dreiglo = mwy o ddysgwyr llwyddiannus!
Re: Cael gwared a treiglo
Postiwyd:
Sad 05 Mai 2012 1:33 am
gan dghughes82
Wel, dyw treigladau ddim yn mynd i ddiflannu o'r iaith ysgrifenedig, felly rhaid i ddysgwyr dysgu amdanynt!
I fod yn onest, pan o'n i'n dechrau dysgu'r iaith, roedden nhw'n eithaf anodd, ond nid y peth mwyaf anodd yn yr iaith o gwbl.
Y ffaith yw, mae'n anodd i ddysgu iaith newydd, pa bynnag yw hi - dyn ni'm yn gallu newid hynny!
Re: Cael gwared a treiglo
Postiwyd:
Sad 05 Mai 2012 1:50 am
gan tommybach
Digon teg, ond dwi jyst eisiau siarad Cymraeg, bod yn Cymro da a mwynhau'r diwylliant Cymraeg. Ond dwi methu blydi treiglo ac mae safon fy iaith yn crap
Re: Cael gwared a treiglo
Postiwyd:
Sad 05 Mai 2012 1:31 pm
gan dghughes82
Wel, swn i'n dweud, paid â phoeni gormod am dreiglo - does neb yn defnyddio pob un ohonynt. Na fydd neb yn dweud dim byd os wyt ti'n camdreiglo! Mater gwahanol yw Cymraeg ysgrifenedig, ond beth am ddefnyddio Cysill Ar-Lein (
http://www.cysgliad.com/cysill/arlein/) i wirio nhw?
Re: Cael gwared a treiglo
Postiwyd:
Sul 13 Mai 2012 8:44 am
gan Seonaidh/Sioni
Rwi'n gyfarwydd a Gaeleg yr Alban ac mae 'na dreiglo yno hefyd, ar lafar ac wrth sillafu. Ond nid yr holl dreiglo sy'n cael ei sgwennu, e.e. mae treiglad trwynol gan rai tafodieithoedd: "yn nhy fy rhieni" => "ann an taigh mo phàrantan", ond ar lafar yn bur aml clywir "ann an nhaigh mo phàrantan". Ac "er gwaethaf" => "a dh'aindeoin": ni chlywir fyth y "d" ar ol yr "n" ("y ghannion", mwy neu lai).
Os 'ti'n edrych ar unrhyw iaith Geltaidd Ynysig (cànan Ceilteach Eileanach, Insular Celtic language) gweli di dreiglo - Gwyddeleg, Manaweg, Gaeleg, Cymraeg, Cernyweg, Llydaweg - mae treiglo gan bob un. Digwydd hyn ym mhob iaith i raddau (e.e. Saesneg: knife - knives): y peth braidd yn eithriadol am yr ieithoedd Celtaidd Ynysig ydy fod y treiglo'n digwydd ar y blaen yn ogystal. Ffaith - rhaid ymdopi.
Re: Cael gwared a treiglo
Postiwyd:
Sul 13 Mai 2012 9:30 pm
gan ap Dafydd
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Rwi'n gyfarwydd a Gaeleg yr Alban ac mae 'na dreiglo yno hefyd, ar lafar ac wrth sillafu. Ond nid yr holl dreiglo sy'n cael ei sgwennu, e.e. mae treiglad trwynol gan rai tafodieithoedd: "yn nhy fy rhieni" => "ann an taigh mo phàrantan", ond ar lafar yn bur aml clywir "ann an nhaigh mo phàrantan". Ac "er gwaethaf" => "a dh'aindeoin": ni chlywir fyth y "d" ar ol yr "n" ("y ghannion", mwy neu lai).
Os 'ti'n edrych ar unrhyw iaith Geltaidd Ynysig (cànan Ceilteach Eileanach, Insular Celtic language) gweli di dreiglo - Gwyddeleg, Manaweg, Gaeleg, Cymraeg, Cernyweg, Llydaweg - mae treiglo gan bob un. Digwydd hyn ym mhob iaith i raddau (e.e. Saesneg: knife - knives): y peth braidd yn eithriadol am yr ieithoedd Celtaidd Ynysig ydy fod y treiglo'n digwydd ar y blaen yn ogystal. Ffaith - rhaid ymdopi.
Cytuno'n gyfangwbl
Mae'r Gymraeg yn treiglo.
Dyma fe.
Ffred
Re: Cael gwared a treiglo
Postiwyd:
Sul 20 Ion 2013 1:17 am
gan Gorwythdroed
tommybach a ddywedodd:(ffêr enyff)
Oes rhaid iti lygru'r Gymraeg fel hyn? Ond i ateb dy gwestiwn: ni fuasai'n gwneud gwahaniaeth oes oeddit yn gwneud ymdrech ymwybodol i beidio a threiglo oherwydd, yn amlwg, ni elli di ei gnweud fel y mae!
Re: Cael gwared a treiglo
Postiwyd:
Gwe 01 Chw 2013 3:55 pm
gan Gwen
Gorwythdroed a ddywedodd:tommybach a ddywedodd:(ffêr enyff)
Oes rhaid iti lygru'r Gymraeg fel hyn? Ond i ateb dy gwestiwn: ni fuasai'n gwneud gwahaniaeth oes oeddit yn gwneud ymdrech ymwybodol i beidio a threiglo oherwydd, yn amlwg, ni elli di ei gnweud fel y mae!
Fedri dithau ddim chwaith.